大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Glannau
Castell Rhuddlan Melinau ar yr afon Ffyddion
Erthygl gan y diweddar Islwyn Morris, Rhuddlan a ysgrifennwyd tuag ugain mlynedd yn 么l.
Roedd melin yn y gorffennol yn L么n y Pentre, Rhuddlan, a dyma'r man neu'r pandy hynaf a gofnodir yng Nghymru. Yn anffodus dim ond safle'r felin sydd ar 么l ond fe ellir gweld ar adegau olion Llyn y Felin yn ystod y gaeaf. Yr afonig fechan o'r enw Afon Goch sy'n rhedeg drwy gwrs golff Rhuddlan a roddai b诺er i'r felin.

Rhyw hanner milltir yn uwch i fyny'r afon fe ddown at Fferm y Pentre. Dyma fferm tra adnabyddus yn hanes Rhuddlan ac un o safleoedd melinau Castell Rhuddlan yn ystod nerth neu rym y castell.

Gweithredu fel melin meillion
Malu 欧d a wneid yma am y rhan fwyaf o'i hoes ond cefais wybodaeth y bu'n gweithredu fel melin meillion am rai blynyddoedd cyn iddi gael ei chau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Dyfeisiwyd peiriannau newydd ar 么l hyn a fyddai'n gallu malu'r meillion gan adael yr hadau ar 么l i'w plannu yn y flwyddyn ddilynol.

Rhyw filltir ymhellach i fyny'r afon fe ddown at Felin Llewerllyd. Mae'r adeilad bellach yn dy annedd ond mae plac ar yr adeilad sy'n honni mai ei ddyddiad adeiladu oedd 1785.

Gellir gweld golygfa dda o l么n Dyserth i Ruddlan o safle'r felin yma.

Y melinydd olaf
Y dyddiad olaf i'r felin falu oedd 1960. Gwr o'r enw Mr. Williams oedd ei melinydd olaf a phreswyliai yno gyda'i chwaer Miss Edith Williams.

Cefais sgwrs hir gyda hi yn 1977 a dywedodd ei bod yn bedair oed yn symud yno. Roedd Miss Williams yn 82 ar y pryd ac felly fe symudodd y teulu yno yn 1899 o Abergele.

Ei thad oedd Thomas Williams a anwyd yn Tyddyn Uchaf Bach tra'r oedd ei mam yn hanu o Ty'n y Caeau, Betws yn Rhos. Prentisiwyd ei thad gyda Lloyd Llwyd ym Melin Llanfair Talhaearn a phan ddaeth Melin Llewerllyd yn wag manteisiwyd ar y cyfle i symud yno.

Dal yslywod ac eogiaid
Ni chofiai Miss Williams yr olwyn ddwr erioed wedi rhewi ond cofiai'r teulu'n dal yslywod ac eogiaid yn ffrwd y felin. Arferai ei brawd ddefnyddio picfforch i'w dal.

Arhosodd Miss Williams gyda'i brodyr yn y felin hyd ei chau.

Roedd fflodiart yn y cae ac yn ystod llifeiriant gadawyd i'r dwr ychwanegol lifo tuag at Aber Rinsey.

Cofiai Miss Williams gerdded bob gyda'r nos gyda pheint a hanner o lefrith i wr o'r enw Mr. Kirkham a oedd yn byw yn Nyserth.

Cerddai drwy'r caeau gyda llefrith a ch芒i geiniog a dimai amdano. Credai Mr. Kirkham fod llefrith hwyr y p'nawn yn fwy maethlon na llefrith bore.

Dywedodd Miss Williams hefyd fod ffermwyr cylch y Rhyl yn talu am falu eu hyd ond byddai'n well gan ffermwyr cylch Trelawnyd, Cwm ac Abergele dalu toll. Felly roedd yn y felin bob amser rywfaint o rawn.

Dywedodd Miss Williams wrthyf ei bod wedi rhoddi'r Tirpec a'r Ffiol i'r Amgueddfa yn Sain Ffagan.

Gweithio ddydd a nos
Fe gymerai ddwy awr i lyn y felin lenwi ac ar adegau rhaid oedd gweithio ddydd a nos. Roedd perygl i'r meini malu boethi gormod a rhoi'r lle ar d芒n.

Fe gofiai Miss Williams un flwyddyn pan roedd black blight ar yr 欧d gan ei wneud yn anodd i'w falu ac roedd y gwragedd i gyd yn cwyno nad oedd y bara'n codi wrth ei bobi.

Ambell ddiwrnod fe fyddai pum fferm wedi dod 芒'u cynnyrch yno ac fe welid pedair trol a'u ceffylau ar y buarth yn eithaf aml.

Cedwid buwch a moch ganddi hi a'i brawd a defnyddir yr eisin i fwydo'r anifeiliaid.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy