大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Glannau
Capel yn dathlu -
Eleni bydd Capel Christ Church, Y Rhyl yn dathlu ei ben-blwydd yn gant a hanner oed. Ystyrir dyfodiad y Parchedig Aaron Francis o Wrecsam fel dechreuad yr Achos.

Daeth i'r Rhyl ym 1854 i wasanaethu'r Annibynwyr (yn Gymraeg ac yn Saesneg eu hiaith fel ei gilydd) a drigai mewn tref ar gynnydd. Gosen, Rhuddlan oedd mam-eglwys Annibyniaeth yn y fro. Fe'i sefydlwyd yn gynnar yn y 1830au.

Yna, ym 1839, daeth cynulleidfa fechan ynghyd i fwthyn yn Y Rhyl o'r enw 'Pen y Gyrten'. Safai Pen y Gyrten mewn rhan o'r dref a elwid yn 'Twll Tywod' (ardal Bedford Street/Abbey Street heddiw). Yn 么l Huw Edwards ('Huwco Penmaen'), awdur Hanes Carmel, Y Rhyl, 1839-1927, rhedai ffrwd fechan i'r fan honno o'r Foryd, a byddid yn nofio coed ar hyd-ddi i bwll llifio a iard goed gerllaw.

Y 1840au
Ym 1841 agorwyd capel pwrpasol, gwerth 9200, yn Windsor Street. Sut le oedd Y Rhyl yr adeg honno? Dyma a ddywed Huwco Penmaen:

"Nid oedd ond megis dechrau cael ei phig i mewn fel ymdrochle. Nid oedd yma s么n am dren. Agerlongau oedd yn cludo nwyddau i'r Foryd, a'r "Why Not", Coach Fawr John Roberts y Royal, yn cario nwyddau a phersonau i fyny Dyffryn Clwyd. Nid oed yma heddgeidwad, nac angen am un.

'G诺r o'r enw Dafydd Williams a wasanaethai fel cwnstabl, 'Town Crier', Teiliwr a Phegiwr Moch. Nid oedd yma Lythyrdy; gwr o'r enw Huw Jones. Mill Bank, ar gefn mul, a gariai lythyrau rhwng Rhyl a Llanelwy. Nid oedd yma Fynwent. Yr oedd nifer y boblogaeth mor fychan, a'r lle mor iach, fel mai anfynych y byddai neb yn marw, a chleddid hwynt yn Rhuddlan.'

Tyndra
Cynyddodd nifer yr aelodau yn Windsor Street, ac ym 1851 agorwyd capel mwy, gwerth 9450, yn Queen Street. Ond erbyn hyn roedd nifer fawr o newydd-ddyfodiaid di-Gymraeg yn eu plith, ac i wasanaethu'r aelodaeth gymysg-ei-hiaith mewn dau addoldy y daeth y Parchedig Francis ym 1854.

Dyma ddisgrifiad di flewyn ar dafod Huwco Penmaen o'r tyndra a gododd rhwng y ddwy garfan parthed defnyddio addoldy Queen Street:

"Cynhelid gwasanaeth Saesneg am ran o'r Sul. Ond o dipyn i beth, y Saeson, yn 么l eu harfer a fynnent gael mwy na'u si芒r Yr oedd Aaron Francis o du'r Saeson, a bu yma helyntion blin. Aeth y frwydr mor boeth fel yr oedd ambell un yn bygwth cau dwrn i daro, yn hytrach na phlethu dwylaw i addoli."

[Yn y rhifyn nesaf bydd Philip Lloyd yn cwblhau'r stori drwy s么n am sefydlu Capel Christ Church dan arweiniad y Parch. Aaron Francis]


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy