Mae Gwynedd yn fab i John Emrys a Hilary Williams, Meddiant, Abergele. Bu'n ddisgybl yn Ysgol Glan Morfa, Abergele ac Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy. Ar 么l ffarwelio ag Ysgol Glan Clwyd ym 1978 ac yna cwblhau cwrs mewn Astudiaethau Adeiladwaith yng Ngholeg Wrecsam aeth Gwynedd yn ei flaen i Brifysgol Leeds i ddilyn cwrs mewn Pensaern茂aeth.
Ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf yn y Brifysgol fe benderfynodd nad hwn oedd y cwrs priodol iddo. Ond cyn penderfynu pa yrfa i'w dilyn aeth i'r Swistir i aros gyda'i fodryb a gweithio yng nghwmni argraffu ei ewythr. Yn ystod y cyfnod yma daeth yn eithaf rhugl yn yr iaith Almaeneg.
Ar 么l dychwelyd gartref 'roedd yn dal yn y niwl yngl欧n 芒 pha yrfa i'w dilyn. Oherwydd yr argyfwng hwn fe benderfynodd wneud cais am unrhyw swydd debygol a ymddangosai yn y papurau lleol, yn bennaf i weld beth fyddai ymateb cyflogwyr. Ar 么l sawl cais aflwyddiannus daeth ymateb i'w galw am swydd fe is 卢gyfarwyddwr dan hyfforddiant yn ffatri wn茂o Seddon yn nhre Dinbych a llwyddodd i sicrhau'r swydd hon.
Ymhen y rhawg cafodd ddyrchafiad mewn swydd, ac yna symud i bencadlys y cwmni ym Manceinion. O'r diwrnod hwn ymlaen dringo'r ysgol fu ei hanes.
Tra oedd yn gweithio ym Manceinion daeth cais am gyfarwyddwr a allai gyfathrebu yn Ffrangeg neu Almaeneg i weithio yn Tunisia i sefydlu a datblygu ffatr茂oedd i wneud dilladau i'r farchnad Brydeinig. Hon oedd ei swydd gyntaf dramor, ac y mae wedi gweithio ledled y byd ers hynny.
Oherwydd ei gefndir ym myd tecstiliau ynghyd 芒'i brofiad yn gweithio dramor cafodd ei benodi'n Gyfarwyddwr cwmni Americanaidd Liz Claiborne yn yr India. Oddi yno i Sri Lanka a chael sawl dyrchafiad swydd yn y cyfamser. Erbyn hyn Gwynedd yw Cyfarwyddwr De Asia i gwmni Next.
'Roedd Gwynedd, ei wraig a'u tair merch fach yn Sri Lanka pan drawodd y Tswnami yr ynys mor ddisymwth ar 诺yl Sant Steffan 2004. Er bod eu cartref ar lan y m么r yn Colombo ni ddaeth unrhyw niwed i'w rhan. Ond cymaint oedd effaith y gofid a thristwch y Tswnami arno fel y sefydlodd elusen arbennig yn enw Next gyda'r bwriad o adeiladu tai i'r digartref.
Derbyniodd nifer o gyfraniadau hael iawn gan unigolion, ysgolion a diwydiant yn ardal Abergele, a bellach bydd pentref newydd sbon yn cynnwys 200 o dai, ysgol ac uned feddygol yn barod i dderbyn yr anffodusion digartref erbyn mis Mawrth, 2006.
|