Sefydlwyd Archif Menywod Cymru 10 mlynedd yn ôl er mwyn casglu a diogelu ffynonellau hanes menywod yng Nghymru. Bwriad yr Archif ydy arbed pob math o ddeunydd dogfennol sy'n taflu goleuni ar fywydau merched yng Nghymru, er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei gadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, ac ar gael i'w astudio gan eraill. Mae'r gwaith yma'n fater o frys gwirioneddol, gan fod pethau'n cael eu taflu'n ddyddiol. Ni allwn ailadeiladu'n gorffennol fel merched heb ffynonellau hanesyddol dilys.
Mae'r Archif yn casglu ystod eang o ffynonellau archifyddol, ffotograffig a defnyddiau eraill, sy'n darlunio hanes a threftadaeth menywod yng Nghymru, a'u profiadau mewn llawer o feysydd: gwleidyddol, domestig, crefyddol, economaidd, diwylliannol a chymdeithasol. Rydym yn chwilio'n arbennig am ddyddiaduron, llyfrau lloffion, llyfrau cofnodion mudiadau menywod, llawysgrifau llenyddol, ffotograffau a deunyddiau tebyg. Mae unrhyw gasgliadau'n cael eu cadw dan enw'r Archif mewn archifdai drwy Gymru ac yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth.
Trefnwyd Sioe ar Daith i Sir y Fflint yn Yr Wyddgrug ar Ionawr 31 yn yr Eglwys Fethodistaidd, Stryd Wrecsam, rhwng 11yb a 3yh. Mae'r Sioe yn gyfle i'r cyhoedd ddod i rannu gyda'r Archif unrhyw ddeunydd sydd ganddynt sy'n taflu goleuni ar hanes merched yng Nghymru. Bydd cyfle i sgwrsio'n anffurfiol gydag arbenigwyr yn y maes, er mwyn cael syniad o arwyddocâd a gwerth hanesyddol dogfennau. Does dim rhaid i'r eitemau fod am fenywod amlwg nac enwog - dim ond eu bod yn dweud rhywbeth wrthym ni am sut y bu merched yn byw eu bywydau yn y gorffennol. Nid oes raid i chi hyd yn oed roi'r deunydd i'w gadw gan yr Archif, er byddem yn hapus iawn i chi wneud hynny. Gallwn wneud copi o unrhyw eitem er mwyn cofnodi'r cynnwys, a chithau ei gadw. Bydd gennym Warchodwr wrth law i egluro beth ydi'r ffordd orau o edrych ar ôl deunydd fel hyn. Bydd paned ar gael ac mae mynediad am ddim. Dywedodd Catrin Stevens, yr awdur a'r hanesydd, yn lansiad y brosiect yn y Senedd: "Mae'n ffaith sobreiddiol fod dogfennau Cymraeg mewn mwy o berygl na rhai Saesneg oherwydd sefyllfa'r iaith. Beth am gofnodion cymdeithasau chwiorydd ein capeli? Beth am gofnodion a rhaglenni Merched y Wawr? Beth am gyfraniad merched at ddiwydiannau yn ein hardaloedd gwledig? Hebddyn nhw pa fath o ddarlun fyddwn ni'n ei gyfleu o fywydau menywod yng Nghymru yn y dyfodol?"
Felly, os oes gennych chi unrhyw ddeunydd o'r math yma yn hel llwch yn eich cartrefi, byddai'r Archif yn hapus iawn i gael golwg arno. Dewch i'n helpu ni i greu darlun cywir a llawn o'n hanes fel menywod/merched/gwragedd yng Nghymru!
|