大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Glannau
Capel yn Dathlu
Yn y rhifyn diwethaf bu Philip Lloyd yn s么n am y gwrthdaro rhwng y carfannau Cymraeg a Saesneg ymhlith Annibynwyr Y Rhyl ym mhumdegau'r 19 ganrif. Dyma ddiwedd yr hanes ...

Aeth pethau o ddrwg i waeth rhwng y ddwy garfan. Dyma adroddiad Huwco Penmaen am John Brereton y teiliwr a Robert Williams y pobydd (y ddau o blaid y Gymraeg) yn ymgiprys i Dafydd Lewis (argraffwr), a oedd 'o'r ochr arall':

Yr oedd Mr. Lewis i bregethu un Sul, pan geisiai y teiliwr ei rwystro i ddringo grisiau y pulpud. Faint bynnag o bennau oedd i'w bregeth y tro hwnnw, nid oedd yr un gynffon i'w got, oherwydd daeth honno i ffwrdd yn llaw y teiliwr. Buasai yn ddiddorol i gael gwybod a gafodd Mr. Brereton y ,job' o'i phwytho.'

'English Services'
Ceir cip ar yr ochr arall i'r anghydfod yn 'Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru', cyfrol IV (1875) gan Rees a Thomas. Adroddir mai ymhlith y 'Saeson' bu'r cynnydd mwyaf ar 么l dyfodiad Mr Francis. Nhw gafodd gapel newydd Queen Street bore a hwyr yn yr haf, gan ddadlau mai iddyn nhw y'i codwyd a bod ymwelwyr yn cyfeirio'n fynych at yr hysbysfwrdd a gyhoeddai 'English Services' ar nos Sul yn yr haf.

Aeth pethau o ddrwg i waeth, er gwaethaf ymgais i gymodi, ac o ganlyniad, yn 么l Huwco Penmaen: '[bu i] Mr Francis gael y capel un Sabboth wedi'i gloi yn ei erbyn. Aeth i'r Town Hall i gynal yr achos yn Saesneg yn benaf, ac yn fuan iawn ymroddodd yn gyflawn i lafurio yn mysg y Saeson.'

Capel Newydd
Dyna ddechrau achos Christ Church o ddifrif, ac agorwyd yr addoldy cyntaf yn dwyn yr enw hwnnw ym 1858. Ymhlith yr aelodau cynnar oedd y Dafydd Lewis y soniodd Huwco Penmaen amdano a Mr a Mrs J. Rhydwen Jones. Dyna ddau enw amlwg ym mywyd masnachol y dref, y naill yn a'r llall i siop ddodrefu Rhydwen Jones & Davies.

Ym 1973 unodd y rhan fwyaf o'r eglwysi'r Congregational Union of England and Wales a 'r Presbyterian Church of England i ffurfio enwad newydd yr United Reformed Church, a Christ Church yn eu plith. Bu Capel Cymraeg Queen Street yn gysylltiedig ag Annibynnwyr Cymru ar hyd ei oes, yn dwyn yr enw 'Carmel' o 1901 hyd nes iddo gau ym 1992.

Ymhen cant a hanner o flynyddoedd mae'r ffrae iaith wedi'i hen anghofio. Mae pedwar o bob pump o aelodau Ysgol Sul Christ Church yn mynd i Ysgol Dewi Sant neu Ysgol Glan Clwyd - a Bethan a Ben, plant y Gweinidog presennol, y Parchedig Simon Walkling, yn eu plith.

Pan ddatgorfforwyd Carmel gan y Dr R Tudur Jones (un o blant yr Eglwys), aeth y gynulleidfa i Ysgoldy Christ Church am de. Ac ymhlith dathliadau Christ Church eleni bydd Cymanfa Ganu ddwyieithog. Beth fyddai Huwco Penmaen, John Brereton. Robert Williams a Dafydd Lewis wedi meddwl am hyn oll?

Philip Lloyd


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy