大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Glannau
Eleri Earnshaw Hanes Eleri Earnshaw
Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un brysur iawn i mi, oherwydd y p锚l-droed a gwaith ysgol.
Ar 么l methu tair wythnos ar ddechrau Blwyddyn 11 yn Ysgol Glan Clwyd oherwydd y teithiau i Wlad yr I芒 ac Iwerddon gyda th卯m p锚l droed merched Cymru dan 18, roedd gennyf lawer o waith i'w wneud. Yr un oedd y sefyllfa unwaith eto y flwyddyn hon, ond y tro yma roedd y drefn ychydig yn wahanol.

Ar Fedi 3ydd cymerais y cam o adael fy nghartref, fy nheulu, fy ffrindiau a chlwb p锚l-droed merched dinas Bangor, er mwyn ymuno 芒'r Arsenal Ladies' Academy yn St. Albans.

Dewis o gannoedd o ymgeiswyr
Cefais fy newis, ynghyd 芒 24 o ferched eraill, allan o gannoedd o ymgeiswyr o bedwar ban y byd (gan gynnwys Siapan!) dros ddwy set o dreialon a chyfweliadau.

Ar 么l derbyn y llythyr, yn hysbysu'r ffaith fy mod wedi cael fy newis i fynychu'r Academi, es ati i ddilyn rhaglen ymarfer dwys dros fisoedd yr haf.

Yna daeth yr amser i mi adael. Dros y ddwy flynedd nesaf St Alban's fydd fy nghartref. Yna mi fydda i'n dilyn cwrs BTEC gwyddoniaeth chwaraeon (sy'n gyfystyr 芒 Lefel A) yng ngholeg Oaklands yn ystod oriau'r bore, ac yna'n hyfforddi ar gaeau gorau Ewrop yn y prynhawn.

Ychydig wedi cychwyn daeth yr amser i mi a dwy Gymraes arall (Kelly Davies a Joanna Price) adael ar daith i Slofenia gyda th卯m p锚l-droed Cymru dan 19 ar gyfer rownd gyntaf Cwpan Ewropeaidd merched dan 19.

Sgorio g么l dyngedfennol
Ar 么l sgorio'r g么l dyngedfennol, bedair munud cyn terfyn y g锚m gyntaf yn erbyn Slofenia, roedd y rhagolygon o gyrraedd yr ail rownd yn edrych yn ffafriol.

A chyrraedd yr ail rownd a wnaethom ni ar 么l curo Estonia ddeuddydd yn ddiweddarach. Yng ngwlad Pwyl bydd timau gwlad Pwyl, Slovakia a'r Iseldiroedd yn aros amdanom ni.

Wedi mis yn 么l yn St. Alban's roedd Budgoszg (rhanbarth gogledd-orllewinol gwlad P诺yl) yn galw. Yn anffodus, wyth diwrnod yn ddiweddarach, roeddem yn teithio yn 么l i Lundain heb allu edrych ymlaen at y rownd nesaf a oedd i'w gynnal yn yr Eidal.

Gwaith cwrs yn aros
Pedwar darn o waith cwrs oedd yn ein croesawu yn 么l yn yr Academi - ar 么l bod yn teithio am bedair awr ar ddeg.

Cafodd yr un drefn arferol ei ailosod yn fuan wedi cyrraedd adref. Coleg yn y bore, p锚l-droed yn y pnawn.

Caiff y cwestiwn 'dwyt ti byth yn diflasu ar b锚l-droed?' ei ofyn yn rheolaidd. Yr ateb yn gyson ydy 'nac ydw' gan fy mod yn cymryd cam anferth tuag at fy uchelgais o chwarae'n broffesiynol yn U.D.A.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy