Lle y cawsoch chi'ch geni a'ch magu? Cefais fy ngeni ym Mhrestatyn a phan oeddwn yn dair oed fe symudon ni i fyw i Drelawnyd i Dy'r Ysgol yng nghysgod y Gop.Sut ddyddiau oedden nhw? Dedwydd a hudolus, roedd hi'n oes braf iawn. Ble gawsoch chi'ch addysg? Yn Ysgol Trelawnyd a'r County School' yn y Rhyl. Yna i Goleg Aberystwyth. Beth wedyn? Gwrthwynebwr cydwybodol oeddwn i a bu'n rhaid i mi weithio ar y tir cyn ymuno hefo'r Ffoaduriaid yn ystod y rhyfel yn yr Aifft a'r Eidal. Beth fyddwch chi'n ei wneud yn eich amser hamdden? Darllen llyfrau a mynd i gerdded i gefn gwlad. Sawl nofel ydych chi wedi ei hysgrifennu hyd yn hyn? Un ar hugain! Mae cyfrol o chwe stori i ddod allan yn y Gwanwyn. Rydych yn hoff o gerddoriaeth - pwy yw eich hoff gyfansoddwyr? Bach a Mozart. Pwy yw eich hoff nofelydd? Tolstoi. Pwy ydy'r person mwyaf diddorol yr ydych chi wedi ei gyfarfod? Saunders Lewis. Beth yw'r anrhydedd mwyaf gawsoch chi? Priodi Elinor yn Saron, Llanwnda. Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Oes gobeithio, os myn y Cymry hynny. Pe baech yn treulio amser ar ynys, beth neu phwy y buasech yn eu cymryd gyda chwi? Fy wyrion a'm hwyresau, 12 ohonynt, a'r Beibl.
|