´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Glannau
carafan 5ed olwyn newydd "Carafan mewn cwr o fynydd"
Mae'n eithaf tebyg y byddai'r Eifion Wyn, petai'n ymweld â phentref Rhuallt heddiw, yn cael agoriad llygad o weld beth sydd wedi digwydd i fyd carafannau ers iddo lunio'r gerdd ramantus 'Y Sipsiwn' sy'n gyfarwydd i gynifer ohonom.

Go brin y byddai'n sôn am 'filgi brych' am 'aelwyd dan noethni'r nef' nac am 'arogl mwg lle bu'. Yn sicr ni fyddai ei ferlod yn dda i fawr ddim iddo!

Yn Rhuallt dan gysgod Mynydd y Cwm a thafliad carreg oddi wrth brysurdeb yr A55, mae teulu lleol anturus wedi sefydlu cwmni i gynhyrchu math unigryw o garafán, ac un sy'n wahanol iawn i'r un a welodd y bardd yn ei ddychymyg.

'Fifth Wheel' yw enw'r cwmni dan sylw a 'Celtic Rambler' yw enw'r garafán a gynhyrchir ganddynt. Y 'pumed olwyn' dan sylw yw'r cyplydd sy'n cael ei ddefnyddio i uno'r garafán gyda'r pic-yp sydd yn ei thynnu.

Am flynyddoedd bu Merfyn a Jenny Parry-Jones yn rhedeg busnes gwerthu tractorau a pheiriannau amaethyddol yn Nhrefnant, ond yn ymddiddori ar yr un pryd mewn carafannau o bob math. Dros y blynyddoedd roedd carafanio yn un o'u prif bleserau a bu ganddynt sawl carafán gonfensiynol a motor-home Americanaidd enfawr nes iddynt fentro, yn 1997, i fewnforio carafán 5ed olwyn o'r Unol Daleithiau.

Bu'r profiad hwnnw'n un tyngedfennol yn eu hanes gan iddynt sylweddoli manteision y math yma o garafán tra'n sylweddoli ar yr un pryd bod natur systemau brecio a thrydan y carafannau Americanaidd yn gwneud y gwaith o'u haddasu yn gymhleth a chostus, a'u lled a'u huchder yn eu gwneud yn anaddas i ffyrdd culion Ewrop. Dyna pryd y cawsant y syniad o gynhyrchu carfanau 5ed olwyn a fyddai'n apelio at brynwyr Ewrop, a mynd ati o ddifrif i fentro cynhyrchu.

Wedi iddynt brynu fferm Llwyn Derw yn Rhuallt ac adeiladu cyfleusterau priodol yno, trefnodd Merfyn a Jenny, ynghyd â'u merch Ceri a'u mab, Adrian, i gychwyn ar y gwaith o ddylunio ac adeiladu, gan gyflogi tîm o weithwyr lleol i'w cynorthwyo. Daeth y garafán gyntaf oddi ar y llinell gynhyrchu yn 2002 ae fe'i dangoswyd i'r cyhoedd mewn sioe garafannau yn Shepton Mallet. Yn Chwefror eleni, 'roedd cynnyrch y ffatri yn Rhuallt yn cael ei arddangos yn sioe garafannau fwyaf Prydain, yn Birmingham.

Mae'r carafannau a ddaw o'r ffatri fechan yn Rhuallt yn mesur 8 metr (26 troedfedd) o hyd a 2.3 metr (7 troedfedd 6 modfedd o led). Oddi mewn maent yn foethus tu hwnt, ac mae pob un sy'n cael ei harchebu yn cael ei theilwrio i gyfarfod â gofynion y prynwr. Mae un amrywiad ar y garafán sylfaenol yn cynnwys 'estyniad', sef darn sy'n dod allan o ochr y 'fan er mwyn creu mwy o ofod oddi mewn i'r lolfa a'r ystafell fwyta, ond mae'r cwmni'n pwysleisio na ellir agor yr estyniad tra mae'r garafán ar y ffordd fawr!

Mae systemau gwresogi dan y llawr, system sinema DVD, ystafell ymolchi en-suite, rhewgell/rhewydd, teledu lloeren a phaneli solar ymhlith yr offer sydd ar gael i'r prynwyr sy'n eu dewis. Braf yw gweld cwmni lleol, sy'n eiddo i deulu o Gymry, yn mentro ac yn llwyddo mewn byd mor ddieithr, ac mae'r Glannau a'i ddarllenwyr yn dymuno'n dda iawn iddynt yn y dyfodol.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý