´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Glannau
Y Rhyl Cyflwyno rhewgell i loches nos
Dydd Iau, Mawrth 21 ymwelodd Mrs. E. Alice Jones, aelod o Fwrdd Rheoli Cymdeithas Tai Clwyd Alyn a Chadeirydd y Gymdeithas, Dr. Buddug Owen â'r Lloches Nos ar gyfer pobl ddigartref yn y Rhyl i gyflwyno rhewgell iddyn nhw yn swyddogol.
Roedd hwn wedi ei brynu gyda gweddill elw'r cyngerdd a drefnwyd yn Eglwys Santes Margaret, Bodelwyddan.

Canlyniad cydweithio llwyddiannus rhwng Cymdeithas Tai Clwyd Alyn, NACRO, Cyngor Sir Ddinbych a Chynulliad Cenedlaethol Cymru yw Lloches Nos Pobl Ddigartref y Rhyl.

Mae'r Lloches Nos yn rhan o bortffolio Tai â Gofal Clwyd Alyn ac yn cael ei reoli gan NACRO, sy'n arbenigwyr ar ddarparu'r math hwn o lety ac maen nhw'n rheoli'r cleientiaid yn arbennig o llwyddiannus.

Cynnig llety dros nos i'r digartref
Bwriad y Lloches Nos yw cynnig llety dros dro yn ystod y nos i hyd at naw o bobl ddigartref dros 16 oed. Rhoddir pryd nos poeth a brecwast iddyn nhw, ac mae yno gyfleusterau ymolchi ar gyfer y dynion a'r merched, cyfleusterau golchi dillad, gwybodaeth a chyngor, yn ogystal â chyswllt Prosiect Ailsefydlu.

Mae'r Prosiect Ailsefydlu yn cynnig help i ddod o hyd i lety addas a budd-daliadau, cefnogaeth unigol i bobol ailsefydlu, cymorth i ganfod dodrefn, cyfeirio at Asiantaethau eraill, cyswllt â Chynllun Bond Sir Ddinbych a chynllun dilynol.

Mae'r Lloches Nos ar agor trwy'r flwyddyn, yn y nos yn unig yn bennaf, ond mae staff yn gweithio gyda'r prosiect yn ystod y dydd.

Mae staff yn bresennol bob amser pan fydd y Lloches Nos yn agor ei drysau fin nos. Mae'r grŵp cleientiaid yn cynnwys unrhyw un sy'n cysgu ar y strydoedd, ond ni fydd y staff yn derbyn camddefnydd o alcohol na chyffuriau gan y cleientiaid.

Prosiect pwysig
Dywedodd Cadeirydd Clwyd Alyn, Dr. Buddug Owen: "Fel Landlord Cymdeithasol Cofrestredig sy'n ymfalchïo yn ei gwaith yn cynnal pobol, mae'r Gymdeithas yn ystyried y Lloches Nos fel prosiect pwysig iawn.

"Mae Clwyd Alyn yn falch iawn o fod wedi chwarae rhan bwysig yn natblygiad y prosiect ac rwyf yn falch o nodi bod nifer o Aelodau Bwrdd Clwyd Alyn a'r staff wedi parhau i gefnogi'r prosiect yn wirfoddol, gan helpu i goginio pryd ar gyfer defnyddwyr y gwasanaeth.

"Rydym yn ymwybodol iawn o'r problemau sy'n wynebu pobol o bob oed heddiw ac yn sicr mae digartrefedd yn broblem sylweddol. Mae hafan ddiogel fel y Lloches Nos yn help i roi hwb i ysbryd pobol, gan gynnig lloches, cyngor a chefnogaeth ar gyfer ailsefydlu, yn ogystal â chwmni a phryd cynnes, y cyfan mewn awyrgylch hapus, gyfeillgar."


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý