Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir Ddinbych yn nhref Rhuthun ddiwedd y mis, ac mae tudalennau'r Glannau wedi eu britho dros y flwyddyn ddiwethaf gydag adroddiadau am weithgareddau Pwyllgorau Ap锚l y trefi a'r pentrefi hynny sydd o fewn y Sir wrth iddynt ymgyrchu at gyrraedd eu nod ariannol.
Mae brodorion Sir y Fflint, sy'n cynnwys cylch Treffynnon, wedi dechrau paratoi o ddifrif trwy sefydlu pwyllgorau o bob math ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru fydd yn ymweld 芒 thref yr Wyddgrug ym mis Awst 2007. Ym mhegwn arall dalgylch Y Glannau, bydd pobl Abergele hefyd yn brysur iawn wrth iddynt hwythau groesawi Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Sir Conwy ym mis Mai 2008.
Golyga hyn wrth reswm bod angen codi llawer o arian mewn ardal weddol gyfyngedig o ran milltiroedd, gan ddibynnu ar yr un bobl dro ar 么l tro i drefnu a chefnogi'r holl weithgareddau sy'n cael eu cynnal. Yn ogystal, dim ond canran fechan o boblogaeth y dair Sir sy'n Gymry Cymraeg, ac mae'n anorfod bod y baich mwyaf o redeg y dair Eisteddfod yn syrthio ar ein hysgwyddau ni. Er bod llawer o ewyllys da wedi amlygu ei hun eisoes ymysg y di-Gymraeg, mae'n amhosibl i'r helyw ohonynt geisio dirnad beth yn union yw arwyddoc芒d y digwyddiadau holl卢bwysig hyn i ni fel Cymry ac mae eu blaenoriaethau hwy o'r herwydd yn hollol wahanol!
Bydd llawer o'n hegni ni, bobl y "Pethe", yn mynd i bwyllgora, i drefnu ac i gefnogi'r dair G诺yl fydd o fewn ein parthau, ond gwae ni os fydd hyn yn peri inni esgeuluso'r gweithgareddau eraill sy'n bodoli yma eisoes ac sydd wedi bod yn fodd i gynnal a chadw Cymreictod ein bro hyd yma. Cofiwn fod yr un mor frwdfrydig ein cefnogaeth i'n Cymdeithasau Cymraeg, i'n Cymdeithasau Diwylliannol, i Ferched y Wawr, i'n Corau a'n Grwpiau Drama, i Eisteddfod Bro Treffynnon, ac wrth gwrs i'n papur bro, Y Glannau.
Mae'n holl bwysig bod y rhain yn goroesi i'r dyfodol, ymhell wedi diflaniad y dair Eisteddfod, er mwyn parhad yr iaith yn y fro arbennig ac unigryw hon.
|