"Os ydych am brynu eliffant, rhowch amser i ni ac fe gewch un. Dyna'r math o le oedd o."
Dyna a ddywedodd perchennog y siop. Cyfeirio'r wyf at siop Lewis's yn Lerpwl sydd wedi bod yn marchnata am dros i ganrif a hanner. Na, nid siop newydd John Lewis sydd newydd agor yn y ddinas ond y siop eiconig gyda'r cerflun nid anenwog sy'n syllu lawr ar brysurdeb y ddinas.
Dyma'r siop a fu'n bererindod i filoedd o drigolion o Ogledd Cymru a thu hwnt. Roedd taith i Lerpwl ac ymweliad â Lewis's yn uchafbwynt y flwyddyn. A ydych yn cofio grotto Sion Corn? Aros am oriau i ymweld â grotto gorau Ynysoedd Prydain yn ôl rhai, yna esgyn i'r pumed llawr a chael pryd mewn un o'r tri llefydd bwyta a hyd yn oed cael eich gwallt wedi ei drin drws nesaf i'r caffi. Ond erbyn hyn, atgofion yn unig sydd ar ôl.
Er fod y siop yn dal i fodoli, o ryw fath, cauwyd y pumed llawr yn nechrau'r wythdegau ac fe adawyd popeth fel ag yr oedd: dodrefn y llefydd bwyta, y ceginau, carpedi, teils, y papur wal ynghyd â'r offer trin gwallt. Mae'r cyfan fel petae wedi ei rewi mewn amser ac yn adlewyrchiad o'r cyfnod a'r ysblander a fu.
Yn 2008 aeth y ffotograffydd Stephen King ati i greu lluniau anhygoel o'r Pumed Llawr gan gynnwys yn ei luniau rhai o gyn-weithwyr y siop ynghyd â'u hatgofion ac y cyfnod euraidd. Yr hyn sy'n amlwg yw fod y cyn-weithwyr yn teimlo eu bod yn perthyn i deulu mawr a'r nod oedd rhoi pleser i'w cwsmeriaid.
Canlyniad y cyfan yw cyfres o ddarluniau artistig arbennig, sydd wedi llwyddo i gyfleu a chrynhoi cyfnod mewn hanes pan oedd hamdden, ffaswin a siopa yn bwysig i'r cwsmer. Mewn geiriau eraill, pan oedd siopa yn bleserus!
I nodi y prosiect arbennig yma, cyhoeddwyd llyfr gan Wasg Prifysgol Lerpwl, 'Lewis's Fifth Floor: a Departmental Story'.
Y bwriad yn y dyfodol yw troi'r siop yn fflatiau ond mae yna obaith y bydd y Pumed Llawr yn cael ei agor i'r cyhoedd am gyfnod byr er mwyn iddynt ymlwybro nôl mewn hanes. Tan i hyn ddigwydd mae'r lluniau i'w gweld yng Nghanolfan Gadwraeth Lerpwl hyd ddiwedd Awst. Maent yn werth eu gweld.
Hywel Jones
|