大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Glannau
Robin Jones yn ystod lansiad S4C Colli Robin Jones
Mawrth 2010
Nid newyddion braf ond rhai trist iawn a ddaeth i'n bro yn ddiweddar o glywed fod Robin Jones wedi'n gadael ar 么l brwydr ddewr yn erbyn cancr.

Dyn arbennig oedd Robin, dyn 'sbesial' i'w deulu a'i ffrindiau ac er iddo gyrraedd mannau uchel iawn yn ei yrfa roedd ei draed wastad ar lawr. Ganwyd Robin yng Ngwytherin cyn symud i'r Rhyl yn fachgen ifanc a'r teulu yn ymaelodi yng Nghapel Stryd Clwyd. Mae'n siwr fod nifer o ddarllenwyr Y Glannau yn ei gofio'n dweud adnod ar fore Sul, rhes hir o blant yr adeg honno a hogyn bach penfelyn yn eu canol yn dweud nid un adnod ond salm gyfan a phob gair yn berffaith.

Roedd Robin wastad yn cydnabod mai'r ddysgeidiaeth ar lin ei fam, Hannah, a'r hyfforddiant wedyn gan Glyndwr Richards a oedd yn gyfrifol am ei lwyddiant ym myd yr adrodd ac ymhen amser o flaen y meic a'r camera.

Roedd ei fam yn cadw gwesty yn Y Rhyl a Robin yn cael cyfle i adnabod diddanwyr fel Rob Wilton a'r Morecambe a Wise ifanc a oedd yn perfformio yn y Pafiliwn yn ogystal 芒 rhai o fyfyrwyr Coleg Glwyd oedd 芒'u bryd ar fynd i'r Weinidogaeth. Tybed a gafodd hyn ddylanwad arno yn y blynyddoedd i ddod?

Wedi iddo gwblhau cyfnod yn Ysgol Ramadeg Y Rhyl, gwnaeth ddwy flynedd o wasanaeth milwrol yn y Llu Awyr, rhan ohono yn Malta lle bu'n gyfrifol am orsaf radio. Wedi dychwelyd adref aeth i'r Coleg Normal ac yna cafodd swydd fel athro yn Ysgol Penmorfa, Prestatyn, nes i'r Prifathro ei gymell i geisio am swydd cyflwynydd i orsaf newydd Teledu Cymru. Symud wedyn i Gaerdydd i fod y darlledwr cyntaf yn y Gymraeg ar 大象传媒 Radio Cymru ac ymhen amser yr un a bwysodd y botwm i ddod 芒'i wyneb gerbron Cymru gyfan ar sianel S4C.

Roedd Robin wedi bod yn gystadleuydd brwd yn eisteddfodau'r fro fel ag yr oedd Eirlys ac Iwan Degla - Robin ar yr adrodd, Eirlys ac Iwan ar y canu a'r ddau deulu ymhen amser yn dod ynghlwm pan briododd Eirlys a Robin a chael dwy ferch, sef Iona sydd yn soprano enwog a Lisa sydd yn gweithio yn stiwdio S4C ar set Pobl y Cwm.

Gan fod y llwyfan eisteddfodol yn rhan fawr o fywyd Robin, does dim rhyfedd iddo gael ei wahodd i fod yn arweinydd ar lwyfan y Genedlaethol ac yn Llangollen lle cafodd gyfle i gyfarfod enwogion fel Terry Waite.

Yn ystod ei yrfa yng Nghaerdydd cafodd wahoddiadau lu i deithio'r byd gyda Ch么r yr Ardwyn a nifer o gorau meibion yn ogystal 芒 thaith i'r Amerig i gyflwyno'r Gymanfa Ganu Genedlaethol. Oedd, roedd o'n hoff iawn o deithio a phob haf byddai Eirlys ac yntau i ffwrdd yn y garafan i Ffrainc i gyfarfod teulu a ffrindiau. Roedd o hefyd yn hoffi chwarae golff a cherdded gyda'r ci ac eto, er yr holl brysurdeb, fe gai amser i wasanaethu ei gymuned yn Radyr - Robin fyddai'n codi'r goeden Nadolig bob blwyddyn - ac yn rhoi help llaw i'w gyfaill, y ficer.

Roedd Eglwys Gadeiriol Llandaf yn orlawn ar gyfer y gwasanaeth o ddiolchgarwch am ei fywyd, adeilad lle roedd Robin wedi cyflwyno sawl cyngerdd. Cymerwyd rhan gan ei gyd-gyflwynyddion, cyn ficer Radyr a'i weinidog, y Parch Glyn Tudwal Jones o Gapel Crwys, Caerdydd, lle bu Robin yn flaenor am ugain mlynedd. Perfformiwyd Emyn y Pasg gan Gantorion yr Ardwyn gydag Iona, merch Robin, yn canu'r solo.

Dyn amryddawn, ond yn y b么n yn ddyn teulu a chanddo feddwl y byd o'r wyr bach, Gruffydd, sef mab Lisa a Mathew. Dyn adnabyddus dros Gymru gyfan ond ei galon yn sicr yma yng Nghlwyd.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy