Yn drystiog gweithiwn drosti -Yn wrol
Gwnawn ein gorau erddi.
Mae'r iaith rhwng ei muriau hi
Yn addas sylfaen iddi.
Einion Evans
1953 'Derwen lle bu'r fesen fach...2003 Gweledigaeth a brwdfrydedd Dr Haydn Williams, Cyfarwyddwr Addysg Sir y Fflint ar ddechrau'r pumdegau symbylodd sefydlu Ysgol Mornant yn Ffynnongroyw, ie, sefydlu Ysgol Gymraeg mewn bro Gymraeg. Yn nechrau'r pumdegau - yr oedd ysgol fabanod Saesneg yn y pentref, ac yn hon yr oedd llawer iawn o Gymry Cymraeg eu hiaith.
Yng ngoleuni hyn bu cryn drafod yn niwedd y pedwardegau a dechrau'r pumdegau gyfarwyddyd y Cyfarwyddwr Addysg i sefydlu ysgol Gymraeg yn y pentref. Yr unig adeilad addas oedd ar gael oedd ysgol y babanod. Yn dilyn hyn penodwyd Rhys Jones, y cerddor, cyfeilydd, cyfansoddwr, yn bennaeth yr ysgol.
Agorwyd y drysau i 'Ysgol Gynradd Gymraeg Ffynnongroyw' fel ei hadwaenid ar y pryd a chofrestrwyd 72 o blant a'r mwyafrif ohonynt yn Gymry Cymraeg dan ofal tri o athrawon. Yn ddiweddarach y mabwysiadwyd yr enw 'Ysgol Mornant'. Bwriad yr Awdurdod Addysg Lleol yn 1960 oedd adeiladu ysgol newydd ym Mhenyffordd, rhyw filltir o'r pentref a symud yr ysgol yno. Ni wireddwyd hyn.
Yn ystod y cyfnod hwn fe dyfodd yr ysgol o ran nifer ac yn haf 1958 roedd 103 o blant ar y llyfrau. Daeth tymor Rhys Jones i ben fel pennaeth yn 1961 yn dilyn ei apwyntiad fel dirprwy bennaeth Ysgol Maes Garmon, yr Wyddgrug. Gosodwyd yr ysgol ar sylfaen gadarn a mawr oedd y parch iddo yn y pentref a'r fro.
Yn dilyn cyfnod Rhys Jones, penodwyd Eifion Tudno Jones fel pennaeth. Dyma gyfnod 'Y Cobleriaid'. Ar sail eu perfformiad fel 'cobleriaid' mewn cyngerdd yn Eisteddfod Genedlaethol y Fflint yn 1969, fe'u gwahoddwyd gan Gymdeithas Cymry Llundain i berfformio yn Neuadd Albert ar Ddydd G诺yl Ddewi. 1970. Tybed a oes rhai o'r 'cobleriaid' yn ddarllenwyr Y Glannau? Byddwn yn falch o glywed oddi wrthych! Daeth tymor Eifion Tudno Jones i ben fel pennaeth yn haf 1971.
Yn ystod gaeaf 1970 penderfynodd Y Pwyllgor Addysg dynnu allan gynllun i ad-drefnu addysg yn y cylch. Y m 1971, ar ymddeoliad pennaeth ysgol Gwespyr Picton, Elwyn Smith, daeth yr adeilad ysgol yn rhydd. Rhyw ddwy filltir o bentref Ffynnongroyw a milltir o Benyffordd. Er nad oedd y rhieni yn llwyr gytuno 芒'r symudiad, buan iawn y gwelwyd fod y 'cartre newydd' yn welliant mawr ac yn fwy diddos.
Dyma ddechrau cyfnod Geraint Jones-Evans fel pennaeth Ysgol Mornant. Wedi sefydlu'r ysgol ym Mhicton (Butyn i'r bobol leol) ehangodd dalgylch yr ysgol. Cyn hyn plant Ffynnongroyw a Phenyffordd a fynychai'r ysgol ond wedi'r trosglwyddiad manteisiodd rhieni o Glanyrafon, Trelogan, Trelanwyd, Llansana, Gwespyr, Gronant a Thalacre ar gynnig addysg Gymraeg i'w plant. Fel canlyniad i hyn, cynyddodd y canran o rieni di-Gymraeg i ryw 98%.
Os her fe fu'n bleserwaith - caf loydd
'r 么l cyflwyno'r heniaith
o gofio gydag afiaith
hanner oes yn trin yr iaith.
Er egni ambell rwgnach - yn wylaidd
datgelaf gyfrinach
heb-os eu troi'n Gymry bach
a'r gwir doedd gwaith rhagorach.
Pedwerydd pennaeth yr ysgol yw Mrs Anne Jones. O dan ei gofalaeth aiff yr ysgol o nerth i nerth a dymunir bob llwyddiant'I'r ysgol ar y bryn lle mae'r Gymraeg yn fyw'...... am yr hanner canrif nesaf a diolch i weledigaeth Dr Haydn Williams am sefydlu ysgol Gymraeg mewn bro Gymraeg yr adeg honno.Ffrind i'r ysgol dros y blynyddoedd fu'r r Prifardd Einion Evans ac yn nathliad chwarter canrif yr ysgol ym 1978, fe i gwahoddwyd i gyfansoddi cywydd i'r dathlu, ac fe'i gosodwyd ar gerdd dant gan y diweddar Glynd诺r Richards. Fe'i canned gan barti o'r ysgol yn y dathliad. Mae'n werth ei roi ar gof a chadw yn 2003 a dyma fo.......
Derwen (lle bu'r fesen fach)
yn dwyn lloniant i'n llinach
a welir. O'r ymylon
y daw nodd y goeden hon.
Yn ddi-os trwy'r broydd hyn
ni bu yno well bonyn.
Yn seiniau pl锚s swn y plant
fe aeth afiaith i'w thyfiant
Pwer eu hiaith sy'n parhau
yng nghanol ei changhennau.
Oeda'r haf drosti'n drwch
ei hirddail yw ei harddwch.
Darn o hil yw'n derwen ni,
hi ddeil i'n hangerddoli.
I ddwyn braw ni ddaw i'n bro
arwyddion o'i di-wreiddio.
Yn ei hansawdd unionsyth
boed yma i bara byth.