大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Tafod Elai
Cantorion Creigiau yn canu yn Eglwys Gadeiriol Hong Kong Cantorion Creigiau yn Hong Kong
Chwefror 2008
Dechrau mis Rhagfyr aeth Cantorion Creigiau ar daith i Hong Kong.

Roedd y cynllunio a'r trefniadau wedi bod ar y gweill am fisoedd a llawer o'r cyfrifoldeb wedi disgyn ar ysgwyddau teulu'r Tudno-Jones. Mair Roberts, Cyfarwyddydd Cerdd y C么r oedd wedi darganfod a sicrhau nawdd ar gyfer y daith ac roedd Nia ei merch sy'n byw gyda'i theulu yn Hong Kong, wedi rhoi llawer o wybodaeth leol er mwyn paratoi'r c么r am yr ymweliad.

Cyflwynwyd pedwar cyngerdd - un yng Ngwesty'r Ritz Carlton ac un yn y Deco Restaurant ar y Peak. Cyflwynwyd cyngerdd yn y ganolfan siopa foethus y Landmark sy'n cael ci reoli gan y Cymro, Huw Andrew sydd 芒'i rieni'n dod o Landybie.

Roedd Eglwys Gadeiriol Hong Kong yn llawn i'r ymylon ar gyfer v brif gyngerdd ac mae'r c么r yn deall fod tua 800 yn y gynulleidfa a chodwyd dros 拢7,000 y noson honno i elusen roedd yr eglwys wedi penderfynu cynorthwyo. Adlewyrchwyd llwyddiant y gyngerdd wrth i'r gynulleidfa i gyd godi ar eu traed ar gyfer y gymeradwyaeth ar y diwedd. Yna cafwyd derbyniad ardderchog yng ngerddi'r eglwys gadeiriol.

Nid oedd llawer o aelodau'r c么r wedi bod yn Hong Kong o'r blaen a'r hyn a oedd wedi tynnu sylw pawb oedd y bensaern茂aeth syfrdanol ar ynys ganolog Hong Kong, a thrwch y boblogaeth mewn ardal mor gyfyng. Cafwyd y pleser pellach o weld Hong Kong wedi ei addurno yn swmpus ar gyfer y Nadolig.

Trefnwyd nifer o weithgareddau cymdeithasol yn cynnwys taith ar junk i weld y golygfeydd (taith a drefnwyd gan Gymro arall, Huw Jenkins o'r cyfreithwyr Clifford Chance, sy'n dod o ardal Llanbedr Pont Steffan). Hefyd cafwyd noson fywiog dros ginio gydag aelodau c么r meibion Cymdeithas Gymraeg Hong Kong a hefyd dathliad arbennig pen-blwydd Siwan Dafis, cyfeilydd y c么r, yn 21. Roedd digon o amser rhydd i bawb grwydro a daeth nifer yn arbenigwyr ar y sustem tramiau ardderchog. Roedd bargeinion marchnad Stanley, y Big Budda a'r fynachlog, a'r siopau electroneg a jade yn Kowloon yn boblogaidd iawn.

Felly gellir ychwanegu Hong Kong i'r rhestr faith o leoliadau tramor sydd wedi goroesi ymweliad gan Gantorion Creigiau. Ble nesaf? Belfast ym mis Mai. Mae'r c么r yn byrlymu. Dewch i ymuno 芒 ni - a chymryd rhan yn yr hwyl!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy