|
|
|
Llyfr newydd am Sir Forgannwg Tachwedd 2002 Cafwyd noson arbennig yn yr Hen Dy, Llangynwyd yn ddiweddar, i lansio llyfr newydd Allan James, Llantrisant sef Diwylliant Gwerin Morgannwg. |
|
|
|
Mae Allan yn enedigol o Faesteg a daeth torf i lenwi lolfa'r dafarn i wrando ar Allan yn cyflwyno ei lyfr a sylwadau crafog Hywel Teifi ar bawb a phopeth.
Aredig gydag ychen, canlyn y Fari Lwyd, hela'r dryw, bragu cwrw bach: dyma rai o arferion gwerin hen sir Forgannwg sy'n cael sylw yn y gyfrol.
Cyfres o ddarluniau sy'n cael eu cyflwyno yma, ac maen nhw'n croniclo agweddau ar hanes ardal arbennig ar adeg arbennig.
|
|
|
|
|
|
|
Clawr Diwylliant Gwerin Morgannwg |
|
|
|
Cawn ddarlun o gymdeithas amaethyddol sydd wedi hen ddiflannu bellach, ond y bu ei gweithgareddau, ei hiaith a'i chymeriadau o ddiddordeb i gofnodwyr a chroniclwyr cydwybodol a oedd yn awyddus i goff谩u'r hyn a fu cyn iddo ddadfeilio.
Trwy hyn llwyddwyd i ddiogelu etifeddiaeth a fyddai wedi mynd yn angof llwyr oni bai am eu gweledigaeth a'u hymroddiad.
Er mai ar Fro Morgannwg y mae prif sylw'r gyfrol hon, y gobaith yw y bydd disgrifio natur diwylliant gwerin yr ardal honno yn egluro natur y prosesau a fu'n llywio cymeriad cymunedau tebyg eraill ledled Cymru.
Daw Allan James o Faesteg, ond ymgartrefodd bellach yn Llantrisant. Mae'n Brif Ddarlithydd y Gymraeg ym Mhrifysgol Morgannwg, ger Pontypridd, lle y mae'n cyfuno ei ddiddordeb mewn iaith, addysg Gymraeg, a diwylliant ei fro.
Cyhoeddwyr y gyfrol yw Gwasg Gomer a'r pris yw 拢12.95.
|
|
|
|
|
|