Lletywyd yng
NgwestÅ·'r Cliff gyda'r rhan fwyaf o'r
cerddwyr yn cyrraedd nos Wener gan
sicrhau dwy noson o gyfeillachu a
sgwrsio tra'n mwynhau'r golygfeydd
bendigedig. Y bwriad ddydd Sadwrn
oedd cerdded o Aberporth i'r
Mwnt. 'Roedd y dynion tywydd yn
darogan stormydd erchyll ond er mawr
ryddhad i bawb, yn arbennig y trefnwyr,
Gill a Peter Griffiths, ni welwyd glaw o
gwbl tan ddiwedd y prynhawn.
Cyrhaeddwyd y Mwnt yn sych ond yn
chwyslyd wedi picnic ganol y daith yng
ngolwg nifer o forloi chwilfrydig.
Gwyrth yn wir! Daeth y glaw yn
hwyrach ond erbyn hynny 'roedd pawb
yn saff yn y bar.
Bore wedyn wedi brecwast hamddenol
manteisiodd nifer ar y tywydd braf i fynd i Warchodfa Natur Corsydd Teifi
sydd i fyny'r afon o dre Aberteifi.
Cafwyd cyfle i weld y cyfoeth o adar
gwyllt sy'n treulio amser yn y
Warchodfa yn ogystal â syllu ar y
byfflos sy'n cartrefu yno. Mae'n llecyn
hyfryd gyda chanolfan wybodaeth
ddiddorol a lle i gael pryd bach o fwyd
blasus hefyd!
Diolch yn fawr iawn i Gill a Peter am
drefnu'r rhaglen ac yn arbennig am gael
y gorau ar y dynion tywydd.
Penwythnos arall gwerth chweil yn
goron ar weithgareddau'r flwyddyn.
Diolch i Peter a'r pwyllgor am eu
gwaith.
Pob dymuniad da i gadeirydd newydd
y Clwb, Huw Llywelyn Davies, ac i'r
pwyllgor.
Mae croeso mawr i aelodau newydd.
|