´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Tafod Elai
Catrin Finch a Hywel Wigley Ymweliad brenhinol â stiwdio telynores
Gorffennaf 2008
Y Tywysog Charles aeth i weld Catrin Finch yn yn ei stiwdio newydd mewn hen gapel ym Mhentyrch.

Aeth y Tywysog i ailgyfarfod â'i gyn delynores wrth ymweld ag Acapela yn hen gapel Horeb ym Mhentyrch ger Caerdydd ar Fehefin 26. Cafodd e a chyn aelodau'r capel y cyfle i weld y gwaith adnewyddu a wnaed ar yr adeilad cofrestredig.

Catrin oedd telynores y tywysog rhwng 2000 a 2005, y person cyntaf i wneud y swydd ers dyddiau'r frenhines Victoria. Mae tywysoges y delyn yn cael y clod am ddod â'r offeryn i sylw cynulleidfa fyd-eang.

Mae Acapela ('o'r capel') yn stiwdio recordio o'r radd flaenaf sydd â lle i gant a hanner o bobl i fwynhau cyngherddau. Catrin a'i gŵr y peiriannydd sain Hywel Wigley, sydd wedi creu'r stiwdio sy'n cynnwys cynifer a phosib o nodweddion y gorffennol er mwyn ychwanegu at naws hudolus y lleoliad yn y bryniau uwchben Caerdydd.

Caeodd y capel wedi i nifer y ffyddloniaid ostwng. Rhoddwyd yr adeilad cofrestredig Gradd II ar werth ac mae Catrin a Hywel wedi bod yn ei ddatblygu ers 2005. Yn ogystal â bod yn gartref ysbrydol i Catrin mae Acapela yn stiwdio recordio fasnachol yn arbennig ar gyfer recordio acwstig ac yn leoliad delfrydol ar gyfer cyngherddau bach.

Ac mae gan rock'n'roll ei le hefyd - prynwyd y ddesg sain gan yr anfarwol Eric Clapton. Mae Catrin eisoes wedi recordio Amrywiadau Goldberg yn Acapela ac mi fydd manylion y CD a thaith yn cael eu cyhoeddi'n fuan.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý