Cyfarfu Clwb
Cinio Penybont
ddydd Mercher 22ain
o Ebrill ac eto 13eg o Fai. Dyma'r un
ola ym mwyty'r coleg tan yr Hydref ond
dros yr haf bydd cyfle i gwrdd yn y
Toby Inn, Heol y De/South Road, Penybont
ar y trydydd dydd Mercher yn y
mis fel arfer am 12 o'r gloch.
Unwaith eto roedd caffi Just Because
yn orlawn ddydd Mawrth 5 Mai - mae'n
amlwg nawr bod cael pryd a
chlonc yma ar ddydd Mawrth cynta bob
mis yn denu nifer o ddysgwyr.
Roedd dau ddigwyddiad newydd
hefyd gyda ni yn ystod y mis diwetha.
Ddydd Iau 30 Ebrill sefydlwyd clwb
darllen safon Canolradd/Uwch yn
llyfrgell Coed Parc, Penybont
dan
arweiniad Geoff Fisher, llyfrgellydd
Abercynffig. Roedd saith wedi dod i'r
cyfarfod cynta a gobeithio bydd hwn yn
mynd o nerth i nerth ac yn gyfle i siarad
a thrafod yn ogystal â darllen nofelau
cyfoes. Bydd hwn yn cwrdd bob
pythefnos yn rheolaidd.
Ddydd Gwener 1af o Fai daeth
pymtheg o ddysgwyr i Amgueddfa ac
Oriel Cwm Cynon yn Aberdâr am
Baned a Chlonc. Mae dysgwyr yr ardal
wedi bod yn gofyn ers tro am
weithgaredd anffurfiol yn yr ardal ac
roedd yn hyfryd gweld cymaint wedi
taro draw. Bydd hwn yn ddigwyddiad
misol nawr ar y prynhawn Gwener
cynta ym mhob mis.
Ddydd Sadwrn 9 Mai cafwyd taith
gerdded lwyddiannus iawn dan
arweiniad Alex Marshal yn ardal Pen y
Fai, ar gyrion Penybont.
Yr un penwythnos aeth grŵp ohonon
ni i wersyll Glanllyn ac er gwaetha'r
tywydd llwyddwyd i gael amser
pleserus a phrysur iawn gan ddechrau
gyda thaith mewn cwch ar draws llyn
Tegid brynhawn Gwener yn y gwynt a'r
glaw. Ddydd Sadwrn y 9fed o Fai roedd
rownd gynta cystadleuaeth Dysgwr y
Flwyddyn Eisteddfod Genedlaethol y
Bala yn cael ei chynnal yn Nolgellau.
Roedd dau o ddysgwyr Morgannwg yn
cystadlu ac roedd pwyllgor Dysgwyr yr
Eisteddfod wedi trefnu nifer o
weithgareddau yn y dref yn ystod y
dydd. Aethon ni ar daith gerdded o
amgylch Dolgellau, i weithdy telyn
diddorol yn NhÅ· Siamas yn y dre ac fe
gawson ni gyfle i ganu a dawnsio
gwerin cyn dychwelyd i Lanllyn ar
ddiwedd y dydd. Ar ôl swper blasus
aethon ni draw i Lanuwchllyn i gael
ychydig o hanes O.M. Edwards, a gweld
Coed y Pry ei gartre cyn mynd am ddiod
i dafarn yr Eryrod. Ar ôl bore o
weithgareddau yng Nglanllyn fore dydd
Sul roedd yn bryd dechrau'r daith adref.
|