大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Tafod Elai
Ceri Tudno yn casglu cyfeiriadau e-bost i Menter Caerdydd E-gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg
Mawrth 2003
Mae ffigurau diweddaraf a ryddhawyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn dangos bod dros 25,000 o siaradwyr Cymraeg yn byw yng Nghaerdydd.

Mae rhoi gwybodaeth i gynifer o bobl am ddigwyddiadau penodol, cyngherddau, dram芒u, a gweithgareddau plant yn gallu profi'n anodd.

Mewn ymateb i'r her yma, bydd Menter Caerdydd yn lansio prosiect uchelgeisiol a chyffrous ar Ddydd Llun 31 Mawrth 2003 am 11.00 o'r gloch yn Swyddfa Menter Caerdydd i sefydlu bas-data gynhwysfawr o gyfeiriadau e-bost i gynorthwyo hyrwyddo gweithgareddau cymdeithasol Cymraeg.

Bydd y gohebydd a'r cyflwynydd adnabyddus Huw Llywelyn Davies a'r newyddiadurwraig boblogaidd sy'n dysgu'r iaith Gymraeg Lucy Cohen yn cofrestru eu cyfeiriadau e-bost nhw ar y diwrnod yma ac yn helpu gyda'r lawnsiad. Mae Menter Caerdydd yn ddiolchgar iawn iddynt am eu hamser a'u cefnogaeth.

Mae Menter Caerdydd yn benderfynol o sicrhau fod yr iaith Gymraeg yn chwarae rhan cyfannol ym mhob agwedd o fywyd Caerdydd: y tu fewn i'r gweithle, yn ystod oriau ysgol a thu allan i'r oriau yma. Mae'r Fenter yn weithredol iawn yn trefnu cynlluniau chwarae a chlybiau cyfrwng Cymraeg ar 么l ysgol ar gyfer plant ac yn hyrwyddo'r defnydd o'r iaith Gymraeg mewn busnes ac mewn gweithgareddau cymdeithasol a hamdden ar gyfer oedolion sy'n dysgu'r Gymraeg.

Dywed Si芒n Lewis, Swyddog Datblygu Menter Caerdydd, "Mae'r ymateb wedi bod yn syfrdanol hyd yn hyn, ac mae'r Fenter yn annog unrhyw un sydd 芒 chyfeiriad e-bost ac 芒 diddordeb mewn gweithgareddau o bob math trwy gyfrwng y Gymraeg i'w ddanfon atom.

"I'r sawl sy heb gofrestru eto ar gyfer y gwasanaeth yma sy'n rhad ac am ddim, anfonwch eich cyfeiriad e-bost i SianLewis@mentercaerdydd.org, os gwelwch yn dda.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy