Daeth chwech drwodd i'r rownd derfynol, tair o ysgol Rhydywaun, dau o Rydfelen ac un o'r Cymer. Cyflwynwyd y noson gan Elen a Rhydian o S4C ac yn dilyn agoriad trawiadol gan y grwp Trysor dechreuodd y cystadlu o ddifri.
Roedd rhaid i bob cystadleuydd ganu dwy g芒n gyferbyniol a chafwyd amrywiaeth o ganeuon gyda cherddoriaeth cefndir a dawnswyr.
Ymhlith yr uchafbwyntiau roedd perfformiad Menna o Black Velvet, Jeni o Camau'n Nesau, Jessica o Sut Fedrai i Fyw ac wrth gwrs Alun gyda'i berfformiad ysgubol o Mac y Gyllell.
Cafwyd barn y beirniad o'r soffa, Branwen Gwyn a leuan Rhys, ac yna cyfle i'r holl gynulleidfa bleidleisio am ei hoff berfformiwr.
Yn fuddugol roedd Alun Cowles o Ysgol Rhydfelen sydd yn astudio celf a drama at Lefel A ac yn mwynhau pob eiliad o berfformio.
Llongyfarchiadau i griw Cic fu'n trefnu'r noson ac yn arbennig i Angela Gould, Martyn Geraint a Dawn Williams am sicrhau gwledd o dalent ifanc newydd.
|