Ymadawodd pedwar deg wyth o staff a disgyblion ar awyren o Fryste yn uniongyrchol i Ferlin. Y cynllun oedd, wedi gwario tri diwrnod ym mhrifddinas yr Almaen, oedd teithio dros nos mewn trên i ail ddinas Gwlad Pwyl i gwblhau'r wibdaith.
Bwriad yr ymweliadau oedd canolbwyntio ar y Natziaid a'r Rhyfel Oer gydag ymweliadau ag Amgueddfa Stori Berlin, Gwersyll Crynhoi Sachsenhausen, TÅ· Cynhadledd Wannsee, ac Auschwitz. Daeth maint troseddau'r Natziaid yn amlwg i bawb ac ar adegau doedd geiriau ddim yn gallu esbonio'r hyn wnaethwyd a thawelwch oedd yr unig ymateb priodol.
O dan arweiniad brodor o Seland Newydd, oedd wedi ymsefydlu yn ninas Berlin, gwariwyd yr ail ddiwrnod yn ymweld â sefydliadau'r Natziaid, Mur Berlin, Checkpoint Charlie, Cofeb yr Holocaust ac Arddangosfa Tirlun Arswyd. Ar ddiwedd y dydd roedd yr Hard Rock Café yn rhyddhad cyn gadael ar y trên cysgu i Krakow.
Does dim un ffilm na llyfr yn gallu eich paratoi ar gyfer yr erchyllterau a wnaethpwyd yng Ngwersyll Cofeb Crynhoi Auschwitz a Birkenau. Roedd hi'n anrhydedd i gael ein tywys o amgylch y safle. Tra yn Auschwitz fe ddaethom ar draws grŵp o ddisgyblion o Ysgol Gyfun Maes yr Yrfa yn cwblhau'r union un ymweliad.
Noson o adloniant wedi hynny gyda dawnswyr traddodiadol mewn bwyty Pwylaidd. Ar y diwrnod olaf aethom i Gloddfa Halen Wieliczka a thaith o amgylch dinas brydferth Krakow.
Gwnaeth sawl un o frodorion yr Almaen a Gwlad Pwyl y sylw bod y disgyblion wedi adlewyrchu, yn eu hymddygiad, natur gorau ein hieuenctid. Roedd y myfyrwyr a'r staff yn teimlo eu bod wedi cyflawni profiad ysgytwol ond gwerthfawr.
|