大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Tafod Elai
Eurof Davies Y 'Great Welsh Run' er mwyn Sian
Mai 2005
Mae'n dymor gwisgo'r sgidie rhedeg, glei! Ar yr ail o fis Mai cynhaliwyd y Great Welsh Run o gwmpas Caerdydd am y pedwerydd tro.
Trefnwyr y 'ras' yw'r Gymdeithas Cystic Fibrosis, a'r bwriad yw codi cymaint ag y bo modd o bres i gynorthwyo gwaith y Gymdeithas hon.

Mae'r clefyd Cystic Fibrosis yn hynod o gyffredin ym Mhrydain Fawr ac fe effeithir dros 7,500 o blant a phobl ifanc gan yr aflwydd. Ar hyn o bryd does dim gwella o'r salwch a nod y Gymdeithas yw ariannu ymchwil pellach er mwyn ceisio darganfod ateb i'r afiechyd.

Bydd dwy ras ar yr ail o Fai - ras 5 milltir a 'ras hwyl', 2k o hyd. Yn y 'ras hwyl' bydd teulu cyfan o Maes y Dderwen yn rhedeg er mwyn codi cymaint o arian ag sy'n bosib at yr achos - Ann a Phil Angell, a'u meibion, Tomos sy'n 7 oed a Daniel sy' ond yn 5 oed ac yn ddisgyblion yn Ysgol Gynradd Creigiau. Mae'r achos yn agos iawn at galon y teulu yma gan y byddant yn rhedeg dros Sian, nith Ann.

Merch ifanc o Alltyblacca ger Llanybydder, yw Sian, sy'n dioddef o'r cyflwr Cystic Fibrosis. Mae Sian wedi wynebu llawer o driniaethau dros y blynyddoedd, yn Llundain a Chaerdydd fel ei gilydd. Cefnogwch Sian, cefnogwch 'deulu'r Angell' - os am addunedu pres. Pob lwc, bawb!

A s么n am redeg ...

...croeso adre i Eurof Davies, Cwrt Tregarth! Tipyn o orchest! Wedi llwyddo i redeg marathon Llundain unwaith eto! Llongyfarchiadau Eurof, nid yn unig ar yr orchest ond am lwyddo i godi dros 拢500 ar gyfer Ap锚l Arch Noa.

Ar y pnawn Sul yr 17eg o Ebrill roedd dros 36,000 o redwyr yn aros i Syr Steve Redgrave ddechrau marathon Llundain ac yn eu plith roedd Eurof. Ar 么l misoedd o redeg ar hyd strydoedd Creigiau a Phentyrch roedd hi'n amser profi'r ffitrwydd. A ma' Eurof yn ffit! Llwyddodd i orffen mewn 3 awr a 33 munud. Amser gwych!

Er mai hon oedd yr wythfed marathon iddo redeg yn cynnwys Efrog Newydd a Brwsel, dyma'r cyflymaf iddo redeg marathon Llundain sy'n profi bod modd gwella 'da oedran! Diolch i bawb am eu cefnogaeth ac os am gyfrannu ymhellach - cysylltwch 芒'r Tafod.

Ni chlywodd Sarah, ar 么l iddo orffen, y geiriau 'byth eto' felly ymlaen 芒'r ymarfer ac i'r ras nesa!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy