大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Tafod Elai
Disgyblion o Ysgol Gyfun Rhydfelen ac Ysgol Gyfun Ystalyfera yn mwynhau'r ymweliad i Lydaw. Taith Gyfnewid i Lydaw
Gorffennaf 2005
Codi'n gynnar fore Sadwrn? Ych a fi! Ond dyna wnaeth 14 o ddisgyblion Rhydfelen ac 11 o blant Ysgol Gyfun Ystalyfera ar y pedwerydd o Fehefin, a hynny heb gwyno gormod hefyd.
Roeddent ar y ffordd i Lydaw i dreulio wythnos gyda disgyblion ysgol yn Lesneven, Llydaw.

Bant 芒 ni, a diolch byth doedd neb wedi chwydu ar y bws, ond roedd sawl un yn edrych braidd yn wyrdd ar y fferi, a pheth da oedd cyrraedd tir cadarn am ddeg o'r gloch y nos.

Bore Sul, ac amser i gwrdd 芒 phawb o fy nheulu newydd. Crwydro o gwmpas y fferm, dweud helo wrth yr anifeiliaid, cael gwledd o fwyd blasus a mwynhau blas ar fywyd yn Ffrainc.

Dydd Llun, doedd dim amser i wastraffu. Am 8.30 y bore cwrddon ni yn ysgol "College Lycee St. Francois" lle'r oedd bws yn pigo ni i fyny a mynd 芒 ni i dref Brest, lle wnaethom ymweld 芒'r amgueddfa bywyd m么r, "Oceanopolis". Roedd y lle'n wych! Gwelsom bob math o greaduriaid rhyfedd a hynod, gan gynnwys nifer o bengwiniaid, siarcod a morloi.

Roedd dydd Mawrth yr un mor brysur. Yn y bore buon ni'n mynychu gwersi yn yr ysgol, yna ymweld 芒'r gegin grempog, "la creperie", lle gwelsom sut mae crempogau Ffrengig yn cael eu creu. Yn y prynhawn, buom yn cymryd rhan mewn twrnament p锚l fasged yn y gwersi chwaraeon.

Pan gyrhaeddodd dydd Mercher roedd yr arian yn llosgi yn ein pocedi, felly bant 芒 ni i'r dref fawr agosaf, Quimper. Dyna le prydferth! Siopau a thai traddodiadol a strydoedd cul hanesyddol, gwelon du mewn a thu allan i'r eglwys gadeiriol "Cathedrale St. Corentin", yna cawsom awr neu ddwy i grwydro'r dref a thwrio drwy nifer fawr o stondinau oedd ar gael yno.

Treulion ni'r rhan fwyaf o ddydd Iau yn crwydro'r stondinau ym marchnad Lannion. Yna aethom ni i bentref bach o'r enw Locronan sydd wedi cael ei ddefnyddio mewn golygfeydd sawl ffilm.

Dydd Gwener, ymweld 芒 pharc hamdden fach "Les Trois Cures" ac i lawer o'r disgyblion, dyna oedd rhan orau'r holl daith. Yn y prynhawn aethon ni i ardal o'r enw Saint-Miguel gyda'i oleudy a thwr hynafol.

Dydd Sadwrn, ac roedd hi' n amser i ddychwelyd yn 么l i Gymru. Felly yn 么l 芒 ni gartref.

Hoffwn ddiolch yn fawr i'n athrawes Ffrangeg, Miss Gwenllian Rees am drefnu'r daith ac i Mr Wyn Thomas a ddaeth i'n gwarchod, hefyd i Miss Hopley, MissWilliams a'r disgyblion o Ysgol Gyfun Ystalyfera fu'n gwmni yn ystod yr wythnos.

Carys Johnson 9R


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy