Ganwyd Winnie yn Nhongwynlais.
Cymraeg oedd iaith y cartref a'r ardal
yr adeg honno. Symudodd y teulu i
Abertridwr ac yna i fferm y Graig
Wen ar y Garth. Priododd â John
Davies, gofalwr ceffylau Craig y Parc.
Roedd hi'n hoff iawn o farchogaeth
ceffylau.
Roedd Winnie yn enwog fel
cantores soprano yn yr ardal a bu'n
diddanu cynulleidfaoedd mewn
cyngherddau yn yr Hen Neuadd Ysgol
a Chapel Horeb. Bu'n aelod ffyddlon
o'r W.I. ac mae hi'n parhau yn brysur
yn y pentref, yn siopa ac yn garddio.
Mae hi'n hoff iawn o ddarllen a gwylio
chwaraeon ar y teledu.
Ar ran y Cyngor Cymuned a thrigolion yr
ardal cyflwynwyd twb o flodau a phlanhigion
iddi hi gan y Cynghorydd Sheila Dafis.
|