´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Tafod Elai
Helen Davies O Swydd Stafford i Swyddog Iaith
Ebrill 2008
Rydych chi wedi clywed am Ryan a Ronnie a Morcambe a Wise. Nawr mae 'na act ddwbl newydd yn yr ardal - ond nid jôc yw eu gwaith nhw.

Gwrandewch ar Caroline Mortimer a Helen Davies yn sgwrsio am eu gwaith a'u profiadau o ddysgu Cymraeg ar raglen ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru, Hywel a Nia (15 Ebrill, 2008):

gwrando

Mae Caroline Mortimer wedi bod yn gweithio'n galed fel Swyddog laith - Hyfforddi a Datblygu Cyngor Rhondda Cynon Taf ers nifer o flynyddoedd - ond ers Ionawr 1af mae hi wedi bod yn rhannu ei swydd. Felly mae Swyddog Iaith arall gyda ni nawr yn ogystal â Caroline - sef Helen Davies. Symudodd Helen i fyw yn Aberdâr ym 1981 ond mae hi'n dod yn wreiddiol o Cannock yn Swydd Stafford. Er bod ei hen fam-gu yn dod o Gymru. Doedd neb yn y teulu'n siarad Cymraeg. Roedd hi'n benderfynol o ddysgu'r iaith o'r cychwyn cyntaf.

Dechreuodd hi a'i chariad Robert (sy'n dod o Aberaman) gwrs dosbarth nos gyda Gwyn Morgan ym mis Medi 1981. Daeth gyfle i wneud cwrs Wlpan ym 1982 - gyda hi a Robert yn priodi yng nghanol y cwrs! Cafodd eu merch Angharad ei geni ym 1983 a chyn bo hir roedd Helen yn helpu mas yn y Cylch Ti a Fi. Ar ôl i Angharad ddechrau'r ysgol aeth hi nôl i ddysgu'r Gymraeg ym Mholytechnig Trefforest ac wedyn aeth hi ymlaen i wneud gradd yn U.W.I.C.

Mae hi, Robert ac Angharad hefyd wedi bod yn enwog fel y grŵp pop "Dragonfall" sy wedi rhyddhau cryno ddisgiau dwyieithog ers 1998. Roedden nhw'n ymddangos ar raglenni fel "Heno" a "Noson Lawen" yn ogystal â pherfformio'n fyw led y wlad. Aeth eu cryno ddisg "Natur Bywyd" i rif 18 yn y siartiau Cymraeg yn y flwyddyn 2000.

Mae Helen wedi dysgu'r Gymraeg i oedolion ers 1991 a hefyd wedi gweithio fel athrawes ac arweinydd tîm gofal plant Menter laith. Yn ogystal mae hi'n nofelydd. Mae'r cariad tuag at yr iaith wedi ei basio ymlaen at ei merch, gydag Angharad yn gweithio yn yr uned Gymraeg i Oedolion Prifysgol Morgannwg.

Mae Helen a Caroline yn mwynhau gweithio gyda'i gilydd, yn rhannu syniadau ac yn wir meddwl bod dau ben yn well nag un!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý