Roedd rhai wedi cael mynd i'r ganolfan i'w brofi ar ddechrau'r mis a rhai wedi bod yn lwcus i gael tocynnau i'r noson agoriadol. Roedd nifer yn cymryd rhan mewn gweithgareddau yn y cynteddau a'r neuaddau ar y dydd Sadwrn. Cafodd plant ysgolion lleol gyfle i ddangos eu doniau ac roedd nifer yn canu yn y c么r enfawr ar y nos Sadwrn. Does dim amheuaeth fod yr adeilad newydd yn drawiadol o'r tu fas ond mae'n werth mynd i mewn i weld y theatr enfawr ac i weld yr holl adnoddau eraill sydd ar gyfer y gynulleidfa ac ar gyfer y cwmn茂au preswyl sydd wedi ymgartrefu yna. Mae Gwersyll newydd yr Urdd yn y Ganolfan yn balas ac yn rhoi'r mudiad yng nghanol bywyd celfyddydol Cymru. Fe'i agorwyd gan Bryn Terfel ar ddydd Sadwrn 27 Tachwedd a bydd yn rhoi cyfle i blant o bob rhan o Gymru wersylla yn y brif-ddinas. Roedd adwaith pobl wrth ymweld ag adeilad newydd Canolfan y Mileniwm yn dweud y cyfan - hynod, rhyfeddol, mor fawr, croesawgar, gwych, y mwya'n y byd, wow. Mae'n rhaid i'r genedl gael adeiladau fel hyn.
|