´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Tafod Elai
Teulu Twm - cwblhau'r Bobathon drwy seiclo i Gastell Coch Bobathon
Ebrill 2006
Mae aelodau o glwb ieuenctid Teulu Twm o Gapel y Tabernacl yn Efail Isaf ger Pontypridd wedi cynnal 'Bobathon' dros benwythnos Mawrth 25-26, sef eu hymgyrch codi arian i Bobath - Canolfan Therapi Plant Cymru.

  • Cliciwch yma i weld lluniau o'r Bobathon.

    Rhwng yr holl aelodau bu Teulu Twm yn nofio, seiclo a cherdded cyfanswm y pellter rhwng canolfan Bobath yn yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd a chanolfan Bobath yn Glasgow yn Yr Alban - sef tua 450 o filltiroedd mewn tywydd digon diflas a gwlyb.

    Mae canolfan Bobath yng Nghaerdydd yn darparu therapi arbenigol i blant yng Nghymru sydd â pharlys yr ymennydd (cerebral palsy). Mae parlys yr ymennydd yn effeithio ar allu plentyn i symud a datblygu yn y ffordd arferol, ond mae'r therapi mae Bobath yn darparu yn helpu pob plentyn i reoli ei gorff yn haws - gan eu galluogi i chwarae, i ddysgu ac i ddatblygu hyd eithaf eu potensial.

    Yn ôl Geraint Lewis, un o aelodau Teulu Twm, "Mae codi arian ar gyfer unrhyw elusen yn gwella ymwybyddiaeth pobl ynglŷn â gwaith yr elusen yna, ond pan mae'n elusen sy'n ymwneud â phlant, mae'n cyffwrdd pawb. Wedi'r cwbl, fuodd pawb yn blentyn unwaith. Gobeithio bydd hyn yn ysgogi mwy o bobl i geisio codi arian ar gyfer elusennau tebyg."

    "Roedd yn benwythnos caled a heriol ac roedd yn ffordd bell i gerdded, seiclo a nofio. Drwy wneud hyn rydym yn ceisio tynnu sylw at y pwysigrwydd o gael canolfan therapi Bobath yng Nghymru a thrwy hynny i godi arian i'r ganolfan yng Nghaerdydd." Meddai Huw M. Roberts, un o'r arweinwyr.

  • Cliciwch yma i weld lluniau o'r Bobathon.


  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

    Sylw:




    Mae'r ´óÏó´«Ã½ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    ´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý