´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Tafod Elai
Meriel Gainsbury Swydd ddysgu i ddysgwraig o Ffynnon Taf
Mawrth 2010
Dod i adnabod Meriel Gainsbury o Ffynnon Taf, dysgwraig sydd wedi cael cynnig i ddysgu'r iaith i ddysgwyr eraill.
Mae nifer o bobl Rhondda Cynon Taf wedi cyfoethogi eu bywydau trwy fynychu cwrs Cymraeg yng Nghanolfan Cymraeg i Oedolion y Brifysgol, ac yn eu plith y mae Meriel Gainsbury.

Penderfynodd Meriel, 43, sy'n fam i ddau o blant, ddysgu Cymraeg am ei bod eisiau i'w phlant gael eu magu'n ddwyieithog. Athrawes Almaeneg a Ffrangeg oedd Meriel cyn iddi adael ei swydd i fagu gael plant. Oherwydd ei diddordeb brwd mewn ieithoedd aeth ati i fynychu gwersi Cymraeg yn ystod y cyfnod o seibiant o'i gyrfa. Cafodd ei hysbrydoli gymaint gan y cwrs Cymraeg i Oedolion fel y derbyniodd y cynnig o fynd yn diwtor yn syth.

Meddai Helen Prosser, Cyfarwyddwr Canolfan Cymraeg i Oedolion, Prifysgol Morgannwg: "Mae stori Meriel yn gyffredin o ran ei phenderfyniad i ddysgu Cymraeg am ei bod yn awyddus i'w phlant gael eu magu'n siarad yr iaith. Mae cymaint o rieni'n dewis dilyn cyrsiau Cymraeg i Oedolion oherwydd hyn, ac o ganlyniad ceir cynnydd yn nifer y bobl sy'n mynychu'n cyrsiau"

Yn ôl Meriel: "Cefais yr wybodaeth am y cwrs yn y Cylch Meithrin lleol, ac mi es ati'n syth i gofrestru. Yn ogystal â'm brwdfrydedd dros ieithoedd, roeddwn yn awyddus i fedru helpu fy mhlant gyda'u gwaith cartref yn Gymraeg, ac i siarad gyda nhw yn yr iaith wrth iddyn nhw ei dysgu eu hunain. "Roedd yn her cydbwyso bod yn fam â dysgu gyda'r nos, ond mi wnes fwynhau ac roeddwn wrth fy modd pan glywais fy mod wedi cael 'A' ar ddiwedd y cwrs."

Mae Meriel yn enghraifft wych o ddysgwr sydd wedi gwneud yn fawr o'r cyfle i ddysgu, ac mae wedi profi nad yw dysgu Cymraeg mor anodd ag mae pobl yn ei gredu. Mae'r chwe chanolfan Cymraeg i Oedolion yng Nghymru'n cynnig amryw o gyfleoedd i ddysgwyr ymarfer eu Cymraeg trwy raglen o weithgareddau dysgu anffurfiol, a'u hymgais dyfal yw ysbrydoli dysgwyr i fod yn rhugl yn yr iaith.

Y llynedd, gwelwyd cynnydd pellach yn y nifer o oedolion oedd yn cael gwersi yng nghanolfan y Brifysgol, a ariennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Un o nodweddion mwyaf addawol y ddarpariaeth oedd y cynnydd yn y niferoedd oedd yn dychwelyd i fynychu dosbarthiadau lefelau uwch sy'n dangos fod y myfyrwyr yn mwynhau'r dosbarthiadau ac yn dymuno bod yn siaradwyr rhugl.

Aeth Helen ymlaen: "Yn dilyn yr ymgynghoriad ar Strategaeth Addysg Llywodraeth Cynulliad Cymru, y gyntaf erioed trwy gyfrwng y Gymraeg, a gyhoeddwyd llynedd, rwy'n gobeithio y bydd mwy a mwy o oedolion yn gweld yr iaith Gymraeg fel 'sgil' ac yn dewis mynychu cyrsiau. "Rydym yn falch iawn bod myfyriwr cystal â Meriel wedi penderfynu ymuno â'r tîm i helpu ac i ysbrydoli mwy o oedolion i ddysgu Cymraeg." Bydd Meriel yn dechrau ei swydd dysgu yng Nghanolfan Cymraeg i Oedolion y brifysgol ym mis Medi.

Am ragor o wybodaeth am wersi Cymraeg ar unrhyw lefel ewch i www.welshforadults.org


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý