大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Tafod Elai
Yn Ysgol Pont Si么n Norton Y Cymoedd Cymysg yn Cyffroi
Hyfref 2003
Eironi a thristwch mawr yw fod cynifer o'r cyfranwyr i gyfrol olaf 'Cyfres y Cymoedd,Yn gymysg oll i gyd', wedi gadael y cymoedd erbyn hyn. Dyma'r cymoedd cymysg eu hiaith a'u diwylliant a ddylanwadodd gymaint ar eu magwraeth a'u ffordd o fyw.

Dyma'r cymoedd cymysg a aeth ar goll dan label hyll the Valleys. Dyma'r cymoedd pwysig a chymhleth lle gwelir diwylliant Saesneg a Chymraeg yn cydgyfarfod, gwrthdaro, cyd-fyw a chroesffrwythloni. Epil diweddar y cymoedd sy'n dweud eu dweud yn 'Yn gymysg oll i gyd' a olygwyd gan Hywel Teifi Edwards.

Yn ei ragymadrodd treiddgar meddai M. Wynn Thomas "Sylweddolais nad oedd y rheini a soniai'n ewn am 'the Valleys' am gydnabod bodolaeth cymdeithas ddiwydiannol Gymraeg cymoedd y gorllewin. Eithr nid y cymoedd hynny yn unig a gafodd eu hanwybyddu.

Beth am Gwm Rhymni, Cwm Ebwy, Cwm Cynon, Cwm Dulais, Cwm Sirhowy, Cwm Llynfi, Cwm Afan, Cwm Garw, Cwm Ogwr a Chwm Dulais, y cymoedd 'di-nod' y mae lle mewn hanes fel petai wedi ei warafun iddynt?"

Llwyddodd deg teitl cyfres feistraidd Hywel Teifi i fwrw golwg go iawn ar gymdeithas gymysg y cymoedd ac mae'r teitl olaf i'w groesawu'n fawr.

Argraffiadau, profiadau a dylanwadau cwm eu magwraeth welir yng nghyfraniadau dadlennol Daniel Evans, Mari Stevens, Owen Martell, Tudur Hallam, Dyfan Jones, Ceri Anwen James, Mari George, Jeni Smallwood, Gethin Rhys, Eiry Miles a Hannah Jones. Meddai Daniel Evans am ei ddyddiau ysgol,
"Pan oeddwn yn ddisgybl newydd yn Ysgol Gyfun Rhydfelen, wrth gerdded adre o'r orsaf fysus heibio i Ysgol Gyfun Treorci, tynnem ni, 'griw Cwm-parc, ein teis ysgol yn ochelgar fel na chaem ein hadnabod gan y disgyblion lleol yn Welshies a chael cawod o gerrig am ein pennau. Anodd peidio 芒 theimlo'n wahanol rywsut."

Wrth gyfeirio at ei gymdogion yn Nyffryn Aman meddai Tudur Hallam, "Mae'r rhieni a'r plant yn dal yn medru'r Gymraeg, ac yn siarad Cymraeg gyda fi. Ond nid gyda'i gilydd."

Yn yr ysgrifau hyn gan y to iau cawn gip ar hanes yn ystod yr hanner canrif ddiwethaf. Dyma gyfnod o ddirywiad ar un llaw, ond o dwf aruthrol o ran addysg Gymraeg ac ymwybyddiaeth Gymreig ar y llaw arall. Trafodir nifer o bwyntiau dadleuol ynghylch sefyllfa'r Gymraeg a dwyieithrwydd heddiw yn 'Yn gymysg oll i gyd', llyfr sy'n glo teilwng ar gyfres werthfawr i'n diwylliant.

Cyfres y Cymoedd: Yn gymysg oll i gyd gol. Hywel Teifi Edwards 拢14.95


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy