大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Tafod Elai
Maer Rosko, Joseph Seite gyda Gwyn Griffiths Lawnsio tair cyfrol newydd
Rhagfyr 2002
Dyw teithio i Lydaw ddim yn brofiad anarferol i mi. Dros y degawd ddiwethaf bum yno o leiaf ddwywaith y flwyddyn. Nifer fwy ambell flwyddyn.

Ac roedd mynd yno ddwywaith o fewn yr wythnosau diwethaf -fel arfer -yn bleser.

Y rheswm dros y teithiau oedd yn anarferol. Mynd yno i lawnsio llyfr, neu lyfrau, neu wahanol fersiynau o'r un llyfr.

Mae gen i brofiad o"ddigwyddiadau" o'r fath yn Llydaw ac o sefyll drwy areithiau maith ac o'r miri sy'n dilyn.

Ond ddim o draddodi un o'r areithiau hynny fy hunan. Mae' n anochel pan mai chi sydd wedi sgrifennu'r llyfr.

Sioni Winwns
Y llyfr yw Sioni Winwns neu The Last of the Onion neu Men neu Le Monde des Johnnies (Byd y Shonis) -dibynnu pa iaith yr ydych fwyaf cyffyrddus ynddi!

Damwain ffodus sy'n gyfrifol am i'r dair gyfrol ddod bron iawn gyda'i gilydd. Sioni Winwns ddaeth gyntaf, yng nghyfres Llyfrau Llafar Gwlad Gwasg Carreg Gwalch. Yr oeddwn wedi trafod paratoi cyfieithad Saesneg o'r gyfrol ar gyfer y Prifardd Myrddin ap Dafydd, sylfaenydd a phennaeth Gwasg Carreg Gwalch.

Wedi'r cwbl, mae'r gwerthwyr winwns o ardal Kastell Paol a Rosko yng ngogledd-orllewin Llydaw yn gymaint rhan o brofiad Albanwyr a Saeson ag o'n profiad ni'r Cymry - yn siaradwyr Cymraeg a di- Gymraeg. Ac yr un mor annwyl yn ein golwg ni i gyd.

Ers dwy neu dair blynedd bm yn trafod, yn achlysurol, gyda gwahanol weisg yn Llydaw, y posibilrwydd o gyhoeddi cyfieithad Ffrangeg o'r llyfr gwreiddiol ar y Sionis -Y Shonis Olaf yn Gymraeg a Goodbye Johnny Onions yn Saesneg. Bu dau o fewn dim i gydio'n yr abwyd, ond y trydydd, Editions Les Telegramrne, adain gyhoeddi llyfrau y papur dyddiol a Sul a'i bencadlys yn Brest, aeth amdano.

Rhyfedd o beth, ond daeth y cyfan at ei gilydd yn dwt ryfeddol. Tua mis Tachwedd, 2001, cefais neges e-bost wrth gyfarwyddwr cyhoedd Editions Les Telegramme, Miche Tanguy, yn dweud ei fod am gyhoeddi fersiwn Ffrangeg. Atebais innau, gan ddweud fy mod yn croesawu'r newydd ac yn edrych ymlaen i gyd-weithio. Aeth misoedd heibio heb glywed mwy.

Ymateb calonogol
Un bore yn Chwefror neu Fawrth 2002, ffoniais Myrddin ap Dafydd i weld sut oedd pethau'n mynd. Roedd ei ymateb yn galonogol a holais a oedd am barhau gyda'r bwriad o gyhoeddi cyfieithad Saesneg? Dywedodd fod hynny'n fwriad pendant ganddo. Yna meddai: "Ydych chi wedi meddwl am gyfieithad Ffrangeg?"

"Wel, rhyfedd i chi s么n ...' Dywedais wrtho am ymholiad Editions Les Telegramme. Ond nad oeddwn wedi clywed dim pellach. Awgrymais ein bod yn aros nes i'r gyfrol Gymraeg ddod allan ac anfon honno at Michel Tanguy.

Ydych chi'n credu mewn telepath ac ESP? Rhoddais y ff么n i lawr a bwrw golwg i weld oedd rhywbeth yn yr e-bost. Tra 'roeddwn i'n siarad 芒 Myrddin ap Dafydd roedd neges e-bost yn fy nghyrraedd wrth Michel Tanguy yn dweud ei fod yn bwrw ymlaen gyda' i fwriad o gyhoeddi'r gyfrol yn Ffrangeg -ac yn gofyn a fyddai'n bosib iddo gyd-weithio gyda fy nghyhoeddwr yng Nghymru! .

Un peth sy'n gyffredin i'r gyfrol Gymraeg a'r gyfrol Ffrangeg yw bod y ddwy'n rhan o gyfres. Sioni Winwns yw Rhif 53 yng ngyfres Llyfrau Llafar Gwlad Gwasg CarregGwalch; Le Monde des Johnnies yv Rhif 6 yn y gyfres Le Monde Editions Les T茅l茅gramme, cyfres yn ymdrin 芒 bywyd y werin yn Llydaw.

Ni lwyddwyd i gael y dair gyfrol yn barod yr un pryd, ac er boddhad personol i mi bu rhaid trefnu dal lawnsiad yn Llydaw -y cyntaf ar gyfer y cyfrolau Cymraeg a Saesneg a'r ail i'r gyfrol Ffrangeg.Ymgymerodd swyddfa Mae Rosko 芒'r holl drefniadau -a chost - y ddau lawnsiad. "Digwyddiad bach fydd y cyntaf ..." felly y dywedodd Chanta1 Feiller o swyddfa'r Maer wrthyf. Bach neu beidio roedd y lle'n llawn.

Croeso brwd i'r gyfrol
Cafwyd araith frwd gan y Maer, Joseph Seite, yn croesawu'r gyfrol am ei chywirdeb a'i manylder a'i chyfraniad i hanes lleol yr ardal ac am roi cymaint bri i gymdeithas o wyr a gwragedd, wnaeth gyfraniad pwysig i economi ardal Rosko. Wn i ddim sut medrai fod mor hyderus am y cynnwys ac yntau heb fedru Cymraeg na Saesneg !

Edmygu'r Sionis
Dywedodd Myrddin ap Dafydd ei fod yn edmygwr mawr o'r Sionis - am eu dycnwch, am y modd y bu iddynt ddeall bod ganddynt rywbeth gwerth chweil i'w werthu ac am ddod o hyd i farchnad i'r cynnyrch hwnnw a'i farchnata'n llwyddiannus. "Roedden nhw'n arloeswyr amaethyddol," meddai "Fe aethon nhw a'u winwns dros y m么r atom ni, yn awr rydyn ni'n dod a'n llyfrau dros y m么r atoch chi!"

Fedra i ddim cofio fawr o beth ddwedes i, dim ond bod yn ymwybodol i mi fod ar fy nhraed yn hir, bod y gwrandawyr yn edrych drwy eu copiau i weld a oedd eu lluniau nhw yno a llygadu gwinoedd a gwirodydd y Maer yn slei bach.


Gwyn Griffiths a'i dair cyfrol
Gwyn Griffiths a'i dair cyfrol
Sgwrsio a hel atgofion
Noson ddiwyd wedyn o arwyddo copiau tra'n ceisio sgwrsio a hel atgofion gyda hen gyfeillion yr un pryd. A gwr ifanc o Dastum, cymdeithas sy'n recordio atgofion hen bobol, yn dod a chynnig cyfieithu'r gyfrol i'r Llydaweg. A Myrddin yn cynnig ei chyhoeddi.

Brynhawn Sul, ddeuddydd yn ddiweddarach, aethom i weld cynhyrchiad o ddrama Naig Rozmor, Johniged An Hilda, yn Kastell Paol. Drama am fywyd y Sionis ac am y trychineb mawr pan suddodd yr Hilda a boddwyd 74 o'r gwerthwyr winwns ar eu ffordd yn 么l i Lydaw ym mis Tachwedd 1905. Cynhyrchiad grymus a gwreiddiol mewn theatr lawn.

Wedyn mynd am de at Sebastien a Therese Prigent a' u merch Marie- Josie oedd yn arfer gwerthu winwns yn Llanelli. Llif o atgofion difyr wrth deulu annwyl yn amlwg yn hiraethu am ddychwelyd i Gymru.

Lawnsio'r gyfrol Ffrangeg
Ar Dachwedd 8, yr oedd Gwen a minnau yn 么l yn Llydaw ar gyfer lawnsio'r gyfrol Ffrangeg. Roedd hwn yn fwy cynhyrfus fyth. Tra roeddwn i eisoes wedi cael copiau o'r gyfrol Gymraeg a'r Saesneg, doeddwn i ddim wedi gweld yr un Ffrangeg. Ac os oedd rhestr gwahoddedigion yr un flaenorol yn hir roedd hon yn faith. A stafell fawr neuadd y dref yn cael ei defnyddio y tro hwn.

Mae pawb yn dweud wrthyf dyn mor dda yw Michel Tanguy ac yr oeddwn yn edrych ymlaen i'w gyfarfod. Ond ymddiheuriadau munud olaf gawson ni wrtho fe ac yr oedd wedi anfon merch dlws iawn o'r enw Rozenn Le Merer yn ei le. Siaradai gyda'r huodledd sy'n arferol mewn achlysuron o' r fath, gwnaeth y Maer yr un peth, ac fe wnes innau fy ngorau.

Wrth ddiolch i'r cyfieithydd, Josseline Mondot, athrawes Saesneg yn Brest oedd wedi treulio blwyddyn secondment yn gweithio i Editions Le Telegramme, soniais fel y bu iddi gyfaddef wrthyf na chlywsai s么n am y Sionis nes iddi gael y gwaith o gyfieithu'r gyfrol. Hynny er ei bod yn enedigol o Brest.

Er bod y Sionis yn enwog ledled Prydain wyr neb amdanynt tu hwnt i ffiniau Llydaw, yn wir prin y mae pobl yn gwybod amdanynt tu allan i ogledd-orllewin Llydaw.

Roedd diwyg y gyfrol yn odidog a'i phris, 27 Ewro, yn sylweddol. Wn i ddim faint o gopiau ddaeth Rozenn gyda hi, ond roedd wedi gwerthu'r cyfan mewn dim o dro. Pan gyrhaeddodd amryw hytrach yn hwyr -yn eu plith Kervella, Maer Kastell Paol, cyn-lywydd Cymdeithas Cymru / Llydaw, doedd dim copi ar 么l.

Noson wedyn cafodd Gwen a minnau wahoddiad i gyfarfod blynyddol Tud an Johniged (Pobl y Sionis). "Mae'n cael ei gynnal yn fy nghartref, ty Sionis go-iawn,': meddai ei llywydd, Marie-Therese Chapalain, merch a chwaer i Sioni, ond a dreuliodd ei bywyd mewn swydd weinyddol bwysig yng ngwasanaeth iechyd Ffrainc ym Mharis. Ac ymddeol i'r ty lle'i ganed yn Rosko.

Ty yn dipyn o sioc
Roedd tipyn bach o sioc. Rwy'n cofio tai tebyg yn Sir Aberteifi fy mhlentyndod, t芒n ar lawr -a llawr pridd. Roedd sachau winwns yn gorchuddio'r ffenestr. Lluniau o'i rhieni ar y waliau ac un mawr o'i brawd, Louis Chapalain, mewn cilt yn gwerthu winwns yn Invemess. Dywedodd rhywun wrthyf mai fyny'r grisiau roedd Marie- Therese yn byw a bod y stafelloedd yn foethus a chrand iawn. .Sioe oedd y llawr pridd a'r t芒n ar lawr a'r sachau winwns!

Criw bach ddaeth ynghyd, dymaid o Sionis, gweddwon Sionis yn bennaf. Cawsom noson dda yn sgwrsio gyda Jean Le Roux a arferai werthu winwns yn Llundain, Francois Seit茅 sy'n parhau i fynd i Fryste, Louis Chapalain ac Andre Quemener sy'n parhau i fynd i'r Alban -gwerthu winwns a gwyliau. Fu Jean Le Roux erioed yng Nghymru ond medr dipyn go lew o Gymraeg. Wedi ei dysgu wrth y gwerthwyr llaeth o Geredigion - pobol y Palmant Aur!

Sioni y torrwr gwallt
Cefais raffaid o winwns ganddo a stori ardderchog am Sioni a arferai fynd i Faesteg. Roedd e'n werthwr anobeithiol -ond yn dorrwr gwallt rhagorol. Ac yn hytrach na gwerthu winwns gwnai ei arian yn torri gwallt ei gwsmeriaid. Er mawr ddicter torrwyr gwallt ardal Maesteg! Roedd gen innau stori debyg am y postmon, Rhystud Evans o Dregaron, fyddai'n torri'i daith i dorri gwallt fy nhad!

Cefais stori arall am ddau Sioni a anwyd naill ai ym Mhontypridd neu'r Rhondda. Ni fedrai'r fam fforddio aros gartref -rhaid oedd mynd i Gymru gyda'i gwr.

Nosweithiau o hel atgofion, ac atgofion yn ysgogi atgofion. Gwnaeth i mi sylweddoli fod mwy eto i'w gofnodi ac na fed.raf honni fy mod wedi gorffen stori ' r Sionis !

Gwyn Griffiths


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy