大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Barcud
Eglwys Taith Llanwnnws
Ebrill 2008
Anne Gwynne yn sgrifennu am deithiau cerdded diweddar yn yr ardal.

Dyma fis Mawrth wedi cyrraedd, a rhai o deithiau Cymdeithas Edward Llwyd wedi bod yn eitha' agos. Methais a mynychu un neu ddwy a oedd yn argoeli i fod yn ddiddorol iawn, megis un yn Nhyddewi o gwmpas y Gadeirlan, ac un arall draw ym Mhonsticill.

Bum ar daith yn ardal Harford; taith oedd hon yn canolbwyntio ar natur, ond 'roeddem hefyd yn edrych draw i gyfeiriad Rhydcymerau, ac felly'n dwyn i gof rhai o leoliadau D J Williams.

Bum hefyd yn Nhalybont, yn cerdded oddi yno i fyny i gyfeiriad Staylittle ac ymlaen gydag ymyl Cors Fochno i Glanwern, a n么l heibio Henllys i goed Alltgoch cyn disgyn n么l i Dalybont. Ond diwrnod o dywydd digon diflas a niwlog ydoedd, a methwyd a gweld y golygfeydd i fyny dros y Gors i'r mynyddoedd tu hwnt i'r afon Ddyfi.

Am y mis hwn felly, canolbwyntiaf ar un daith a fu yn ardal y Barcud tua canol mis Mawrth.

Taith Llanwnnws
Dyma daith a ddechreuodd yn Eglwys Gwnnws, o dan arweiniad John Williams, Bwlch Bach, Rhydyfelin. Mae John wedi arwain nifer o deithiau diddorol yn yr ardaloedd yma o'r blaen.

Dechreuwyd yn y fynwent, tua ugain ohonom yno. Mae'r safle yn hynafol, a si芒p y fynwent yn dweud hynny, ond diweddar yw'r eglwys bresennol. Mae'r cysegriad i Wnnws yn unigryw, a llawer ffurf ar yr enw; mae un stori bod gwraig o enw tebyg wedi gorffwys yno pan yn s芒l iawn; cafodd wellhad yno, ac felly sefydlodd eglwys yn y fangre. Beth bynnag, mae sawl adeilad wedi bod yno dros y canrifoedd; codwyd yr un presennol yn 1874, i gymryd lle yr un blaenorol a godwyd yn 1829.

Cawsom fynediad i'r eglwys, i weld yn arbennig y groes sydd yn y cyntedd. Mae'n dyddio o'r cyfnod o gwmpas y flwyddyn 800oc neu cyn hynny, ac yn arbennig oherwydd ei llythrennau Gwyddelig a'i phatrwm cymhleth o groes mewn cylch gyda chlymau Celtaidd. Yn y gornel ucha' mae'r llythrennau XPS, sef talfyriad Groegaidd o'r enw "Iesu Grist", ac wedyn eiriau Lladin sydd, o'u cyfieithu yn dweud "Pwy bynnag a roddo eglurhad i'r enw hwn (sef XPS) gadawer iddo fendithio enaid Hiroidil, mab Carotinn". Mae hyn yn codi cwestiynau eraill - sef ystyr yr enwau hyn. Ai yw'r enw Caradog a Carotinn yn perthyn?

Ar 么l gadael yr eglwys, aethom ymlaen i'r rhaeadr enwog, sef y rhaeadr Caradog, ac yn wir 'roedd yn werth gweld y d诺r yn cwympo lawr i'r dyfnder. Mae 'na chwedl eto yngl欧n 芒 Charadog - iddo fod ar ffo fan hyn ac i bobl ollwng bwyd i lawr y ceunant iddo. Beth bynnag, bu d诺r y rhaeadr yn troi rhod y felin ganrifoedd ar 么l dyddiau Caradog.

Gadael y pentref wedyn, a throi i gyfeiriad Bryn Meherin, gan edrych draw i gyfeiriad Llwyn Malis, a chael ar ddeall mai oddi yno y daeth darganfyddwr y broses o buro haearn a fu'n gymaint o hwb i'r diwydiant yn Ne Cymru.

Cawsom ein cinio mewn llecyn ger Bryn Meherin, a chael clywed hanes y bobol ecsentrig fu'n byw yno n么l yn nechrau'r ganrif ddiwethaf. Ymlaen wedyn drwy'r coed, allan i gorsdir, heibio fferm Ynys Forgan ac allan i'r comin sydd rhwng Lledrod a Thyngraig.

Atogofion wedyn am yr hen Hopson oedd yn byw ar y comin mewn rhyw hofel oedd yn gyfuniad o dwll yn y ddaear gyda math o gaban drosto. Cofiaf yn dda ei weld ar ei feic ddi-bedal yn cario ei sachau o fwsog i Aberystwyth. Mae'n debyg iddo fyw yno drwy eira mawr 1982.

Oddi yma twy warchodfa natur Brynarth ymlaen heibio fferm Penlan, a n么l i'r eglwys. Bu'n daith hynod o ddiddorol.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy