大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Barcud
Coedwig Comisiwn Coedwigaeth
Mai 2003
Agorwyd archif hanesyddol a blaengar Comisiwn Coedwigaeth Cymru - Hanes y Goedwig - sydd yn adfywhau'r gorffennol gydag adroddiadau uniongyrchol gan bobl a welodd wyneb Cymru'n newid yn ystod y ganrif ddiwethaf yn swyddogol, yng Nghanolfan y Barcud Coch yn Nhregaron, ddydd Mercher 16 Ebrill.

Mae Hanes y Goedwig, a gefnogir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri, yn gasgliad pwysig o gyfweliadau ar d芒p, barddoniaeth a hen luniau sydd yn crisialu atgofion y rhai y newidiwyd eu bywydau am byth wrth i raglen coedwigo'r Comisiwn Coedwigaeth newid tirlun cefn gwlad Cymru mewn ffordd sylfaenol.

Mae chwe chyd-lynydd cymunedol ledled Cymru wedi treulio blwyddyn bron yn ymchwilio ac yn casglu gwybodaeth a hanesion yn ofalus o'u hardaloedd, a'u recordio ar Gryno Ddisgiau a fideo.

Ers mis Hydref llynedd, mae arddangosfa o'r prosiect ar daith yn cefnogi cymunedau ledled Cymru ac yn denu diddordeb mawr yn lleol. Croesawyd yr arddangosfa i Ganolfan y Barcud Coch a bydd yn aros yno am dair wythnos cyn symud ymlaen i Niwbwrch ar Ynys Mon ar 3 Mai.

Roedd aelodau'r gymuned leol, gan gynnwys I. O. Evans, prif goedwigwr cyntaf Mynydd Tywi, yn bresennol i agor yr archif yn swyddogol i'r cyhoedd. Mae'r archif yn cynnwys dros 32 o gyfweliadau, 135 o hen luniau a fideo pum munud yn cofnodi hanes coedwig Tywi gan ddangos faint o hanes, archeoleg a thraddodiadau'r ardal leol a gadwyd trwy gyfranogiad pobl leol yn ystod y camau o reolaeth coedwig.

Cedwir hyn yng Nghanolfan y Barcud i ymwelwyr ei weld yn ystod misoedd yr haf a bydd yn symud i Lyfrgell Pontrhydfendigaid am y gaeaf. Hefyd gosodir cop茂au archif cyflawn o'r holl gymunedau a gymerodd ran yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth ac Amgueddfa Bywyd Cymru yn Sain Ffagan i'w cadw yno ar gyfer y cenedlaethau i ddod.

Yn cynnwys dros 400 o hen luniau a 120 o gyfweliadau gyda phobl rhwng 60 a 99 oed, bydd yn rhoi golwg gyfareddol ar amser pan ddechreuodd y Comisiwn Coedwigaeth blannu coedwigoedd newydd Cymru.

Dywedodd Tom Jones, cyd-lynydd cymunedol ardal Coedwig Tywi, Ceredigion: "Bu'r prosiect yn ffordd ddymunol o ddefnyddio coedwigoedd a choedtiroedd y genedl fel adnoddau lleol a'r gobaith yw y bydd yn dod a chymunedau at ei gilydd. Mae cymaint o 'wybodaeth i'w ymchwilio a'i gasglu o hyd. Dyma brosiect delfrydol am i'n plant ysgol lleol symud yn ei flaen.

"Bu'r disgwyl yn fawr yng Nghanolfan y Barcud Coch am yr arddangosfa a'r archif, a'n gobaith yw y bydd yn arwain at well ddealltwriaeth a mwynhad o dreftadaeth gyfareddol ein coedwigoedd lleol ac yn wir eu lle yn ein diwylliant. Bu'n werthfawr ac yn foddhaol i ddeffro atgofion pobl o'u coedtiroedd lleol a'u mwynhad ohonynt."


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy