Mae cyfnod arall yn dod i ben ym mhentref ac ardal Llangeitho gyda chau y Post ar 6 Hydref ac os na fydd tro ar fyd bydd y Siop yn cau ddiwedd mis Hydref. Mae'n siwr nad oes unrhyw ddarllenwr yn cofio agor y Swyddfa Bost ym 1853 gan David Morgan, tadcu i Mrs. Ceinor Thomas, Glynderwen a Dr. Hugh Herberts, Aberaeron.
Parhaodd y Swyddfa Bost, a ddechreuodd yn y Noddfa ond a symudodd nes ymlaen i'r adeilad presennol, o dan ofal yr un teulu hyd 1946. Wedi dyddiau David Morgan, ei ferch sef Miss J. Morgan fu'n Bostfeistres hyd nes i Marie a Dai James symud i'r Swyddfa Bost ar 么l y rhyfel a chyd-fyw am gyfnod gyda Miss Morgan. Bu Mrs. Marie James yn Bostfeistres, ac fe ymunodd Mrs. Anne Griffiths, Maesgwyndir i'w chynorthwyo o 1951 ymlaen, hyd nes blwyddyn ei hymddeoliad hi ym 1981. O hynny ymlaen, cafodd y cyfrifoldeb ei drosglwyddo o un i'r llall yn amlach gyda Mr. a Mrs. Beaney (o'r Alban) i ddechrau, yna Peter Bailey a gyflwynodd y Siop hefyd ac yna Mr. Warner gyda nifer o gynorthwywyr gwahanol. Diolchwn o waelod calon, fel ardal, i Jane ac Ian am gyfnod o sefydlogrwydd, sobor o gyfeillgar, gyda chymorth Mrs. Margaret Hunt, dros y blynyddoedd rhy brin olaf.
Er gwaethaf eu gofid am y dyfol bu iddynt barhau i gynnal y gwasanaeth gyda gwen a hiwmor hyd y diwrnod olaf. Os nag oes unrhyw ddarllenydd yn cofio agor y Swyddfa Bost cyntaf dros 150 o flynyddoedd yn 么l, mae llawer yn cofio pedair Siop arall o leiaf yn y pentref, - Siop Jenkins, Jubilee, Plas a Siop Rees heb s么n am Weithdy'r Crydd yn y pentref. Roedd Mr. David Morgan yn lenor cydnabyddedig a bydd traethawd o'i eiddo am Langeitho'n cael ei arddangos pan ddechreuir yr Amgueddfa Daniel Rowland yn y pentref.
Yn ei draethawd sonia'r awdur fod y Swyddfa Bost a agorwyd ym mis Gorffennaf o'r flwyddyn "yn cynnig llawer o gyfleustra i'r pentrefwyr a'r wlad" Wel, gofynnir, beth yw'r ymateb yn mynd i fod ar gyfer y "cyfnod nesaf"?
|