Eu bwriad oedd i godi arian i ysbytai Tregaron a Bronglais er cof am ffrindiau a theulu a fu'n brwydro yn erbyn cancr.
Oherwydd bod y ddau yn hoff iawn o feicio fe benderfynwyd i geisio cyflawni cymal o'r Tour de France. Ond pa gymal i'w ddewis? Wel, fe benderfynwyd ar Cymal 17, sef yr un olaf, a'r gwaethaf, yn y mynyddoedd.
Yn gorffen ym Morzine, roedd yn rhaid cyflawni 125 milltir yn cynnwys pedair rhiw serth a oedd yn wyth milltir o ddringo yr un ar gyfartaledd. Roedd cyfanswm y dringo yn 21,000 troedfedd, sef tua chwech gwaith uchder yr Wyddfa! Yn wir, wedi cyflawni yr un cymal yn y Tour de France 2000 fe ddisgrifiodd Lance Armstrong ef fel, "Y diwrnod gwaethaf o feicio yn fy mywyd."
Er bod y ddau wedi paratoi yn ddiwyd trwy feicio i'w gwaith yn gyson ac ymarfer ym mynyddoedd yr ardal, doedd dim byd yng Nghymru i gymharu 芒 maint yr Alpau.
Dechreuwyd y daith o 125 milltir gyda'r wawr ym mhentref St-Jean de-Maurienne ac roedd y 30 milltir cyntaf yn gymharol wastad a rhwydd, ond yna cyrhaeddwyd y mynyddoedd a dechrau'r gwaith caled!
Dywedodd Dilwyn, "Yr oedd y sialens yn ofnadwy o galed - nid yn unig yn ffisegol, ond yn feddyliol hefyd. Fe gefais amser caled iawn ar yr ail ddringfa o'r dydd, sef y Col de Aravis, ac oni bai am anogaeth Rob, rwy'n amau y byddwn wedi llwyddo i gyflawni uchelgais bersonol."
Anhawster arall ar y daith oedd y gwres llethol gyda'r tymheredd yn cyrraedd y 30au uchel. Ar adegau yn y mynyddoedd roedd wyneb yr heol yn dechrau toddi ac roedd rhaid gofalu i osgoi y darnau yma.
Meddai Robert, "Roedd y cymal yn anodd iawn ond yn bleserus ar yr un pryd gyda golygfeydd anhygoel o'r Alpau. I mi yr uchafbwynt oedd cyrraedd brig y Col de Joux-Plane, y ddringfa olaf a'r galetaf o'r dydd - wyth milltir o ddringo i uchder o 1,700 medr (5,577 troedfedd). O'r fan yma roeddem yn gallu gweld Mont Blanc sef mynydd uchaf Ewrop, ond yn fwy pwysig i ni oedd bod y dringo wedi gorffen ac fe allem fwynhau y chwe milltir i lawr i Morzine a diwedd y daith.
Yn gyfan gwbl fe lwyddwyd i gasglu 拢4,554.00 a oedd yn golygu 拢2,277.00 yr un i'r ddwy ysbyty. Hoffai Dilwyn a Robert ddiolch i'w prif noddwyr, sef Cambrian Printers, Mid-Wales Scaffolding, Summit Cycles, Aled Garner Plasterers, Craft Preservation Co. Ltd. Reading, Costcutter Llanbadarn, Red Lion Bont, ac hefyd i bob unigolyn a gynorthwyodd gyda'r fenter a chefnogi'r achos.