大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Barcud
O'r chwith - Eric, Harold, Sylvia, Harry, Celia, David, Edith a Frank Dathlu Hanner Canrif
Ionawr 2005
Darllenwch am ddyddiad arwyddocaol i un teulu arbennig a symudodd o Swydd Stafford yn Lloegr i ardal y Barcud yn 1954.

Mae 1954 yn ddyddiad arwyddocaol i un teulu arbennig yn ardal y Barcud. Dyma'r flwyddyn y dechreuwyd llunio Gwlad Disney a'r flwyddyn y cyflawnwyd y trawsblaniad llwyddiannus cyntaf o aren, ond i Tom ac Alice Bailey yr oedd antur wahanol ar fin dechrau.

Tra byddai ambell deulu heddiw yn meddwl ddwywaith cyn diwreiddio eu teulu o ddau o blant, bu i Mr a Mrs Bailey gyda theulu o wyth benderfynu cefnu ar Biddulph Moor yn Swydd Stafford a dechrau bywyd newydd yng Nghymru.

Yr ardal a ddewisiwyd oedd Pontrhydfendigaid a'r fferm oedd Hafodrhyd. Wedi prynu'r fferm yn gynharach yn y flwyddyn bu i'r ddau hynaf o'r plant Eric ac Edith a oedd yn dal yn eu harddegau symud i lawr yn gynnnar yn yr Hydref i baratoi'r lle gogyfer 芒 dyfodiad y gweddill o'r teulu a gyrhaeddodd ar Ragfyr 18fed, wythnos cyn y Nadolig.

Ni chafwyd cyfle i hysbysu Sion Corn o'r newid cyfeiriad a bu raid i Mrs Bailey gerdded y tair milltir i Bontrhydfendigaid i d欧 Gwen Ebenezer ac yn 么l i brynu anrhegion ar gyfer aelodau ieuangaf y teulu.

Ym 1958 symudodd y teulu i Tymawr, Swyddffynnon, fferm oedd yn fwy o ran maint ac a fyddai yn cynnig gwell bywioliaeth iddynt. O ran galwedigaeth ffermwr oedd Tom Bailey a phorthmon gwartheg ac mae'n deg i ddweud iddo fod yn digon teg yn ei ymwneud ac wrth ddelio 芒'i gwsmeriaid. Gwyddai am yr amser anodd yr oedd rhai ohonynt yn mynd drwyddo a thystia ami deulu i'w dyled iddo.

Gwyddom fod tu cefn i bob person llwyddiannus wraig dda. Fel mamau ei chyfnod, cyn dyddiau dyfeisiadau modern y ceginau cyfleus a'r prydau parod gweithiodd Alice Bailey yn ddiarbed i ofalu am ei theulu a sieryd y ffaith y cyfeirid ati bob amser fel Mrs Bailey gyfrolau am y parch a deimlid tuag ati yn yr ardal.

Er fod Mr a Mrs Bailey bellach wedi ein gadael deil eu wyth plentyn i fyw yn yr ardal. Mynychodd y mwyafrif o'r pymtheg w欧r, sydd 芒'r gymraeg yn loyw ar eu min, ysgol Swyddffynnon.

Teimla'r plant yn ddyledus iawn i'w rhieni am wneud y penderfyniad i ddod i fyw i'r rhan hon o Gymru ac edmygant eu hysbryd anturus a'u gobaith yw eu bod bob un ohonynt yn ffordd ei hun wedi cyfrannu i'r ardal gymaint ac a gawsant hwy ganddi hi.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy