Bu'r sioe 'O'r Bont I'r Abaty' yn llwyddiant mawr dros y penwythnos Mai 21/22, gyda thyrfa luosog yn mwynhau'r perfformiadau.
Cynhaliwyd dau berfformiad cofiadwy gan naw ysgol gynradd y cylch, Tregaron, Llanddewi Brefi, Llangeitho, Penuwch, Bronant, Lledrod, Swyddffynnon, Ysbyty Ystwyth a Phontrhydfendigaid, actorion ifanc o Ysgol Uwchradd Tregaron, sef Sam Jones, Nia Wyn Jones, Hayley Rees, Guto Morgan, Joshua Davies a Tanwen Davies, dau g么r lleol - C么r Merched Clychau'r Fedwen a Ch么r Meibion Caron ynghyd 芒 nifer o berfformwyr unigol.
Dewi Sion Evans oedd yn cymryd y brif ran - Dafydd ap Gwilym, a myneich Ystrad Fflur oedd Gwydion ab Ifan, Rhodri Davies ac Ifan Jones Evans. Fe fu'r tywydd yn garedig iawn ar y nos Sadwrn, a llwyddwyd i gynnal y perfformiad allan yn yr awyr agored yn Ystrad Fflur, ond ar y nos Sul, bu'n rhaid symud i Neuadd Pantyfedwen ar y funud ola', felly, fe gafwyd dau berfformiad gwahanol oherwydd hynny.
Roedd y lleoliad yn yr Abaty yn creu naws arbennig iawn, a'r perfformiad yn y neuadd yn gynnes, agos-atoch.
Cafwyd y fraint ar y Nos Sadwrn o gwmni'r Cymro cyntaf i gyrraedd copa Everest, Caradog Jones, ac ar y nos Sul cafwyd cwmni Tecwyn Ifan, cynweinidog Carmel, yn canu ei g芒n am Stesion Strata.
Ar y prynhawn Sul hefyd, cynhaliwyd gwasanaeth diddorol iawn yn null yr hen fynachod, yng ngofal y ficer, Y Parch Philip Wyn Davies yn yr Abaty. Dymuna Gr诺p Datblygu Cymuned Ystrad Fflur ddiolch i bawb a fu'n gysylltiedig 芒'r sioe, yn arbennig y Cyfarwyddwr a'r Cynhyrchydd - Dwynwen Lloyd Raggett, y Cyfarwyddwr Cynorthwyol a golygydd y sgript - Alun Jenkins a phawb a gyfrannodd at y sgript.
Ddiolch hefyd i bawb a ddaeth allan ar dywydd braidd yn amheus i fwynhau'r perfformiadau, i Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) a Cynnal Ceredigion am noddi'r digwyddiad, i CADW am bob cymorth ac am gael defnyddio'r safle hanesyddol yn Ystrad Fflur.