大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Barcud
Ysgol Edward Richard Y ffordd ymlaen
Mai 2004
Daeth oes aur Ysgol Edward Richard a sefydlwyd yn wreiddiol yn yr hen Eglwys yn 1734, i ben fel sefydliad addysgol pan gaewyd Coleg Sant Ioan yn 1972 pan oedd ond tro myfyriwr yn astudio yno.

(Mae'n ddiddorol nodi bod un o'r tri, sef Tim Pieme o Flaenafon yng Ngwent, wedi dod i ymgartrefu ym Mhengelli Tynygraig dair blynedd yn 么l). Gan fod yna gysylltiad clos rhwng y Coleg a'r Eglwys ar hyd y blynyddoedd (prifathro'r Coleg oedd offeiriad y plwyf), parhaodd yr Eglwys i ddefnyddio'r Coleg fel neuadd hyd at 1994 pryd y daeth yn amlwg bod angen gwneud cryn waith ar yr adeilad os am barhau i'w defnyddio.

Yn anffodus er yr holl ymdrechion dros gyfnod o flynyddoedd methwyd cael cymorth ariannol. Ymhen hir a hwyr sylweddolodd y Cyngor Plwyfol Eglwysig mae'r unig ffordd i ddiogelu'r hen adeilad hanesyddol oedd trwy ei gynnig at wasanaeth y gymuned.

Ffurfiwyd Cymdeithas Gymunedol Ystrad Meurig yn y flwyddyn 2000 i ymgymryd 芒'r dasg o archwilio i'r ffordd ymlaen i adfer y lle. Ar 么l misoedd lawer o lafur caled a dyfalbarhad, yn enwedig ar ran y Dr Paul Westney yr ysgrifennydd, daeth y newydd hir ddisgwyliedig ar ddechrau Ebrill hod cymorth ariannol o 拢356,000 Amcan 1 o Ewrop yn dod i ran y Gymdeithas ynghyd ag arian cyfatebol oddi wrth y Gronfa Adfywio Lleol, Cronfa Ardoll Agregau Cynaliadwy Cymru a'r Gymdeithas ei hun.

Gobeithir dechrau ar y gwaith cyn bo hir a'r bwriad yw y bydd yr adeilad gorffenedig yn ganolfan aml bwrpas i'r gymuned gyfan. Eisoes cafwyd dwy eitem gan y cyfryngau i hysbysebu'r fenter; ar Radio Ceredigion ar Ddydd Gwener y 9fed o Ebrill ac ar y rhaglen deledu ddyddiol Wedi 7 ar S4C ar Nos Fawrth y 13eg o Ebrill. Bydd mwy o wybodaeth yn ymddangos yn y wasg yn fuan.

Bydd cyfarfod Blynyddol y Gymdeithas yn cael ei gynnal yng Nghapel Swyddffynnon ar Nos Fercher y 19eg o Fai am 7.30 o'r gloch.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy