Anaml iawn y deuai helfa i'r ardal yr adeg honno a phan ddeuai, c诺n Bertie Stephens fyddent ac os deallais yn iawn byddai "llwynog c诺d" wedi ei ddarparu ar eu cyfer, hyn yn sicrhau y caed rhai oriau o "sbort" i'r helwyr. Ar yr achlysuron hynny rhaid imi gyfaddef mai teimlad y bardd oedd fy eiddo innau ac y deuai "llawenydd gyda'r nos o wybod mai oferedd fu ei hela ef dros waun a rhos." Bellach nid oes ofyn am yr arferiad annynol hwnnw gan nad yw canfod llwynog yn "ryfeddod prin" erbyn hyn. Yn 么l y rhai sy'n dilyn yr helfeydd nid un na dau nac hyd yn oed tri o lwynogod a godir ganddynt a hwythau yn hela yn wythnosol. Mae'r cyfrif hwn yn ychwanegol at gyfrif helwyr y nos sydd yn cyfrif eu hysbail mewn tymor o hela yn y degau. Daeth yn olygfa gyffredin bellach ei weld yn y caeau liw dydd yn chwilio am oen marwanedig neu friw a adawyd yn dilyn genedigaeth. Erbyn hyn mae yntau ynghyd a'r adar ysglyfaethus yn wynebu dyddiau main. Yn dilyn un arall o'r deddfau, eto fyth, a ddaeth o Frwsel ni chaniateir gadael unrhyw fath o gelanedd ar wyneb y tir bellach nac hyd yn oed ei gladdu. Disgwylir i bob amaethwr fod wedi cofrestri yn y Cynllun Anifeiliaid Syrthiedig ac yna fe'i cesglir gan gwmniau a awdurdodwyd i wneud hynny i'w difa mewn llosgydd, a'r amaethwr unwaith eto yn gorfod wynebu'r gost. Ymyrraeth arall ar drefn natur gan rai heb wybodaeth ohono. Wedi cyfnod hir o drafod ac o wrando ar ddadleuon hurt y rhai hynny oedd am weled ei wahardd cafodd y llywodraeth yn y diwedd y maen i'r wal ac erbyn hyn daeth hela'r llwynog gyda ch诺n yn anghyfreithlon. Er hynny mae'n debyg fod cymaint o dyllau yn y ddeddf fel y cafodd ei gosod allan fel na welir rhyw lawer o newid yn yr arfer wedi'r cwbl. Anghenraid yw cadw ei nifer o dan reolaeth a heddiw pryd na chaniateir inni adael dim ar y ddaear a fyddai yn gynhaliaeth iddynt daeth gwneud hynny yn bwysicach nag erioed. Gan na chaniateir inni bellach ddefnyddio nwy i'w lladd yn y ddaear pa ddulliau eraill sydd ar gael i wneud hynny. Mae gofid y ffermwr sydd yn dal i wyna allan ar y caeau yn ddealladwy. Ac yna fel petai i ychwanegu sarhad at ddolur dyma ddarparu swyddogion liwarchod Alun Michael. Rhydd hyn argraff hollol anghywir i'r cyhoedd o'r gymuned amaethyddol. Bu, a deil i fod yn hynod o oddefol o'r rheolau hurt a orfodwyd arni gan y llywodraeth yn dilyn clwy'r traed a'r genau nad oedd ganddi unrhyw ran yn ei greu na'i ledaenu. Yn ol y wasg amaethyddol esgeulustod ar ran un o filfeddygon archwilio y llywodraeth oedd yn gyfrifol amdano a phetaent wedi dangos rhan o'r brwdfrydedd a ddangoswyd i gael y mesur hela drwy'r senedd yr adeg honno buasent wedi arbed y lladd cywilyddus a fu ynghyd a'r gofid a'r boen a'i dilynodd i lawer o deuluoedd. Erthygl gan Herbert Morris
|