大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Barcud
Catrin Finch Ffagl Gobaith yn creu cerddoriaeth b锚r
Mehefin 2004
Bydd Ffagl Gobaith, gyda chefnogaeth ei Noddwr Catrin Finch, yn cynnal Cyngerdd Elusen ar Fedi 18fed yn y Neuadd Fawr Aberystwyth.


Ers ei sefydlu yn y flwyddyn 2000 brasgamodd Ffagl ymlaen. Mae swyddogion yr elusen yn 10 Stryd Popty yn darparu cysur, cydymdeimlad a chefnogaeth ymarferol i unigolion yng Ngheredigion ac arnynt afiechyd sydd yn eu cyfyngu neu yn angeuol. Ceisir datrys unrhyw gais anfeddygol rhesymol ar ran yr unigolyn a'r teulu wrth iddynt wynebu salwch difrifol.

Gymaint yw'r galw am y gwasanaeth fel yr agorir ail swyddfa yn y sir o ddechrau Mehefin ym Manchester House, Aberteifi, gan gynnig i drigolion de y sir yr un lefel o ofal ac ymrwymiad.

Mae'r elusen yn cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr a th卯m bychan o weithwyr proffesiynol o bob oed. Mae'r gwaith yn ddiddorol iawn ac yn rhoi cryn foddhad ac ymdeimlad o optimistiaeth i bawb, uwchlaw popeth arall, ymdeimlad o OBAITH.

Mae'r sefydliad wedi torri tir newydd gyda'i syniadau a'r modd a ddefnyddir i drosglwyddo ei wasanaeth i'r gymuned. Mae'r 'caredigrwydd' ymarferol yma yn iaith ddealladwy i bawb - gobeithir y gellir lledaenu neges y gair yma trwy donnau'r awyr ar adain c芒n mewn cyngerdd arbennig iawn nos Sadwrn Medi'r 18fed.

Yn garedig iawn, cytunodd Catrin Finch (Telynores Tywysog Cymru) fel Noddwr Ffagl Gobaith i berfformio yng Nghyngerdd Elusen Ffagl Gobaith. Bydd yr artistiaid eraill yn cynnwys C么rdydd o dan arweiniad Sioned James o Landysul - c么r ifanc cymysg cyffrous o Gaerdydd, pencampwyr cystadleuaeth Corau Radio Cymru 2003 gyda llawer o'r aelodau o Geredigion, Rhys Taylor - clarinetydd talentog ifanc lleol, gyda Glan Davies yn arwain y noson. Noson i ddathlu talent arbennig ein bobl ifanc ac yn eu dwylo, ein GOBAITH am y dyfodol.

Ceir rhagor o fanylion am y noson cyn bo hir ar y cyfryngau ac yn y papurau lleol. Am nawr, cofiwch roi y dyddiad yn eich dyddiadur, Nos Sadwrn Medi 18fed am 7.30 pm yn Neuadd Fawr Aberystwyth (am fwy o wybodaeth cysylltwch 芒 Ffagl Gobaith (01970 611957) neu thebeaconofhope@btconnect.com.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy