Lansiwyd Cryno Ddisg newydd mewn Cyngerdd a gynhaliwyd ar ddydd Sadwrn Hydref 24ain yng Nghapel Soar, Llanbedr Pont Steffan ar gyfer Ap锚l Sioe'r Cardis 2010.
Roedd y Capel dan ei sang wrth i Ddeuddeg cyn-enillydd y Rhuban Glas berfformio mewn Cyngerdd Mawreddog i ddynodi lansiad Cryno Ddisg 'Rhuban Glas y Cardis.
Y parchedig Goronwy Evans, gyn-ysgrifennydd Eisteddfod Pantyfedwen Llanbedr Pont Steffan am 35 mlynedd ac Ysgrifennydd yr Eisteddfod Genedlaethol pan fu yn Llambed yn 1984 wnaeth Lywio'r noson yn ei fodd proffesiynol arferol.
Bu i'r Cyngerdd ddwyn gyda'i gilydd gyn-enillwyr Cystadleuaeth Gwobr Goffa David Ellis a Chystadleuaeth Gwobr Goffa Osborne Roberts Eisteddfod Genedlaethol Cymru sef un o'r prif wobrau i Unawdwyr ers 1947.
Yn cyfeilio ar gyfer yr artistiaid oedd cyfeilydd proffesiynol; Jannette Massocchi. Roedd yr enillwyr a wnaeth berfformio yn cynnwys Dai Jones (Llywydd Sioe'r Cardis) Evan Lloyd, Teifryn Rees, Carol Davies, Ifor Lloyd, Angela Rogers Davies, Eirwen Hughes, Bethan Dudley Fryar, Delyth Hopkins Evans, Robyn Lyn Evans, Gareth Huw John a Rhian Lois a bu iddynt gyflwyno amrywiaeth o unawdau, deuawdau a thriawdau o'r hen ganeuon Cymreig ac Arias clasurol.
Daeth y Cyngerdd i ben gyda'r holl unawdwyr yn ymuno gyda'i gilydd i ganu 'Calon Lan' a'r gynulleidfa gyfan ar eu traed.
Llywydd y noson oedd y cyflwynydd Radio Beti George a wnaeth annerch y gynulleidfa drwy s么n am eu gwaith a'i phrofiadau.
Yn ogystal ffilmiwyd y Cyngerdd gan Boomerang ac mi fydd at S4C yn y Gwanwyn.
Trefnwyd y digwyddiad gan Bwyllgor Apel Sioe'r Cardis 2010 Canol y Sir.
Dywedodd y Cadeirydd, Nicola Davies, y bu'r noson yn Ilwyddiant ysgubol a rhaid yw diolch i'r artistiaid ac arweinydd y noson am ddarparu eu gwasanaeth yn hollol rhad ac am ddim.
Ein diolch hefyd i bawb wnaeth gyfrannu at Iwyddiant y noson yn ogystal a'n noddwyr, NFU Mutual.
Mae'r Gryno Ddisg ddwbl a lansiwyd yn gasgliad unigryw o ganeuon traddodiadol a chlasurol gan yr artistiaid y cyfeiriwyd atynt uchod yn ogystal a chyn-enillwyr eraill na fu'n bosib iddynt fod yn bresennol sef Washington James, Gwion Thomas, Huw Rees Evans a Gwawr Edwards a'r diweddar Berwyn Davies.
Y mae un Cryno Ddisg o'r casgliad dwbl at gyfer enillwyr cystadleuaeth David Ellis (Rhuban glas dros 25 oed) a'r llall ar gyfer cyn-enillwyr Cystadleuaeth Osborne Roberts (o dan 25 oed).