Yn ddiweddar gwnaeth aelodau Merched Ystwyth ymgynull yn siop chips y Dolphin yn Aberystwyth i swpera ac yn wir cafwyd gwledd o fwyd blasus iawn cyn mynd lawr i'r harbwr i ganolfan y Bad Achub i gwrdd a thri o aelodau gwirfoddol y criw.
Cafwyd noson diddorol, addysgiadol a hwyliog yng nghwmni Carwyn, David a Gemma.
Gwelwyd fideo yn dangos sut mae'r orsaf yn gweithio a thipyn o'i hanes gan gynnwys hanesion dewdra rhai o'r gwirfoddolwyr.
Cawsom olwg ar eu gwisg a chlywed am eu gwerth; mae un person yn gwisgo dwy haenen o ddillad arbennig sy' gwerth oddeudu 拢2,000!
Yn y Ilun fe welwch Sioned a Gwenan yn modelu'r gwisgoedd.
Wedyn cafwyd gyfle i eistedd yn y Bad ac i rhyfeddu ar yr holl aparatws technegol sy' ar eu cyfer ac i ddysgu mwy am y broses gweithredu o'r alwad gyntaf i'r achub.
Y syndod mwyaf oedd i'r merched oedd fod yr elusen yma yn cael ei hariannu gan bobl gyffredin a thrwy ddiwrnodau codi arian ac yn y blaen, ac nid ydynt yn derbyn ceiniog wrth y Ilywodraeth!
Dathlwyd Dydd Gwyl Dewi ar y 28fed o Chwefror eleni, gan fynd i dafarn y Miners Arms am swper. Cafwyd noson hwylus a chymdeithasol iawn, Hoffem ddiolch i Jeff a Gwenda am y bwyd arbennig a'r croeso cynnes cafom.
Penderfynwyd rhoi rhodd o 拢150.00 i gronfa yr Henoed. Hefyd 拢50.00 i gronfa Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2010.
Bydd Sioe Arddwriaethol Flynyddol Merched Ystwyth yn cael ei chynnal ar ddydd Sadwrn y 4ydd o Fedi 2010.
|