大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Barcud
Golygfa o Ffair Rhos Os Hoffech Wybod (Holi Hwn a'r Llall)
Medi 2003
Enw a Chyfeiriad:
ALUN JENKINS, Tynewydd, Ffair Rhos.

Ymhle bu dechrau'r daith?
Tynewydd, Ffair Rhos.

Beth yw'r digwyddiad cyntaf a gofiwch?
Mynd i'r gweithdy gyda fy nhad oedd yn saer coed yn Ffair Rhos.

Ar wah芒n i'ch rhieni, pwy neu beth a ddylanwadodd fwyaf arnoch?
Roy Stephens am iddo agor fy llygaid i brydferthwch y gynghanedd.

Pe byddai i chi gael dewis dawn, pa ddawn y carech fod yn feddiannol arni?
Y ddawn i ganu'r piano.

Beth sy'n achosi mwyaf o ofid i chi?
Mewnlifiad i gefn gwlad.

Oes yna ddarn o farddoniaeth y byddech yn falch o deimlo mai chwi a'i cyfansoddodd?
Awdl Y Cynhaeaf gan Dic Jones.

Pwy yw y person yr ydych yn ei edmygu fwyaf?
Tyrone O'Sullivan am iddo gadw Glofa'r Twr ar agor a chadw gwaith yn yr ardal yn erbyn gwrthwynebiad y llywodraeth.

Beth sydd wedi rhoi fwyaf o bleser i chi?
Crwydro ardal fy mebyd.

Beth sy'n eich gwylltio fwyaf?
Dylanwad cyffuriau a'r effaith mae'n gael ar gymunedau cefn gwlad.

Pe byddai i un o'r Tylwyth Teg gynnig gwireddu tri dymuniad o'ch eiddo, beth fyddent?
Cael byw yn iach am weddill fy oes. Gweld adfywiad yr iaith Gymraeg yn ei chadarnleoedd.

Oes yna ddarn o lenyddiaeth y byddech yn falch o deimlo mai chwi a'i cyfansoddodd?
Dim un darn yn benodol ond mae nofelau Daniel Owen yn apelio'n gryf ataf.

Pe byddai i chi ennill y loteri, sut byddech yn gwario yr arian?
Yn ddoeth....

Pa fath o wyliau y byddwch yn ei fwynhau fwyaf?
Gwyliau crwydrol yn ymweld 芒 gwledydd tramor gan flasu diwylliannau amrywiol ac arferion traddodiadol y brodorion.

Pa nodwedd mewn person yr ydych yn ei gasau fwyaf?
Person dauwynebog.

Oes yna ddywediad neu ddihareb a hoffwch yn fwy na'r un arall?
Mae'r awr dywyllaf cyn toriad dydd.

A oes gennych eich hoff daith?
Y daith adref ar 么l gwyliau.

Pa newidiadau carech eu gweld yn eich papur bro?
Nid oes angen newid arno ond byddai colofn arddio yn gaffaeliad (?)


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy