大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Barcud
Ffair Garon 2005
Gorffennaf 2005
Adroddiad o'r Ffair Garon 2005 gan Rheolwr Datblygu Curiad Caron Dafydd Wyn Morgan.

Wrth godi am 6 o'r gloch ar fore arbennig o haf ar Fai 30ain roedd gennyf deimlad yn fy mol y byddai Dydd Gwyl Y Banc Sulgwyn 2005 yn ddiwrnod i'r brenin. Ni chefais fy siomi oherwydd cefais y cyfle i fod yn rhan o ddigwyddiad pwysig iawn yng ngalendr Curiad Caron a Thregaron a'r cylch.

O agor drws y ffrynt, deuai seiniau paratoadau'r dydd i'm clustiau gyda nifer o wirfoddolwyr wedi ymgasglu i gynllunio a chreu sylfeini'r dydd. Roedd gwaith i'w wneud hyd yn oed cyn i'r prif geiliog glochdar ond roedd trefn yno, trefn a oedd yn deillio o gael yr un pobl yn barod i dorchu llewys yn flynyddol. Ac wrth gwrs roedd hi'n dywydd braf, arbennig o braf.

Roedd holl drefniadau'r dydd wedi'i gwneud erbyn naw o'r gloch ac felly dim ond aros oedd raid, i'r stondinwyr a'r arddangosfeydd oedd eu hangen i ddod a chig a chnawd i'r sgerbwd oedd wedi'i sefydlu yn gynnar iawn ar doriad y wawr.

Wrth i Lywydd anrhydeddus y dydd, Marwin Evans, gyhoeddu agoriad swyddogol Ffair Garon am 11 o'r gloch, braf oedd gweld gymaint o bobl yn ymgasglu yn ymddiddori ac yn tyrru o un man i'r llall. Cyfle i weld rhywbeth newydd cyfle i hel atgofion o'r hen ffordd o fyw ac yn bennaf oll cyfle i gymdeithasu.

Eleni eto roedd digon o ddigwyddiadau i'r teulu cyfan, rhai yn ddigwyddiadau cyffredin ac eraill yn arbennigol gan bwysleisio ar hen draddodiadau ein hetifeddiaeth. Mae dim ond ysgrifennu am Ffair Garon yn dod a d诺r i'm dannedd gan i mi fwynhau'r diwrnod tu hwnt ac yn 么l y son i nifer ohonoch chwi gael yr un profiad a minnau.

Wrth gwrs ni all digwyddiad tebyg i Ffair Garon 2005 fodoli heb yr ymdrech a gorchwyl a roddir i fewn i wneud y trefniadau paratoadol hynny sydd ei hangen i sicrhau llwyddiant y dydd i chwi y gymuned leol, ac wrth gwrs yr ymwelwyr hynny sydd yn dod. Mae'r ymwelwyr, yn sgil y digwyddiadau yma, yn hybu'r economi leol a chefnogi'r broses o adfywio cefn gwlad Ceredigion.

Diolch o galon felly i Sian Evans, Amy Jones, Parch. Roger Humphreys, Aled Evans a'r llu o wirfoddolwyr hynny a wnaeth y diwrnod lwyddiant ysgubol.

Diolch hefyd i Gynllun Treftadaeth Tregaron am eu cefnogaeth a'u cydweithrediad. Ac yn olaf diolch i chi bobl ardal Tregaron am gefnogi'r digwyddiad. Os am sgwrs am weithgareddau Curiad Caron, cysylltwch 芒 mi'n syth ar 01974 298146 neu ebostiwch info@curiadcaron.org

Erthygl gan Dafydd Wyn Morgan (Rheolwr Datblygu - Curiad Caron)


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy