"Wrth ysgrifennu'r ychydig eiriau yma sylweddolaf fod y rhod wedi troi! Aeth y dydd byrraf heibio i mi yn ddiarwybod ddoe, a minnau'n rhy byrsur i sylweddoli beth oedd y dyddiad! Felly gallwn edrych ymlaen am gam ceiliog bob dydd, ac mewn fawr o dro byddwn yn gweld y lili-wen fach yn ein Ilonni.
Edrychaf ymlaen am deithiau diddorol gyda Chymdeithas Edward Llwyd yn ystod y flwyddyn nesaf eto. Gan i mi fod i ffwrdd ar wyliau gaeafol yn ardal Mynyddoedd yr Hatz, yn yr Almaen, collais ddwy daith yn ddiweddar, ond bum yn ardal Drefach Felindre cyn mynd, ac felly dyma beth o'r hanes.
TAITH PENYBOR I GWMPENGRAIG
Ein man cyfarfod heddiw oedd eglwys Penboyr ar gyfer taith i fynd a ni dros rhai o hen Iwybrau'r gweithwyr a gerddai i'r ffatrioedd gwlan oedd mor niferus yn y fro hon o gwmpas Cwmpengraig.
Dechreuwyd gydag ychydig o hanes eglwys Penboyr. Mae'n sefyll mewn man unig rhwng yr afonydd Bargoed ac Esgair ac mae wedi ei chysegru i'r sant Llawddog. Mae'n edrych yn wahanol i eglwysi eraill am ei bod wedi ei phlastro ar y to allan, sy'n anarferol rhaid dweud,ac yn edrych braidd yn rhyfedd.
Ail-adeiladwyd ar y safle gwreiddiol yn 1809, ar gost y rheithor, Yr Archddeon Thomas Beynon, mae'n debyg. Codwyd wal uchel o gwmpas y fynwent - hon eto yn anarferol o uchel. Erbyn 1887'roedd angen ail-wampio eto, ac ychwanegwyd clochdy.
Gyferbyn a'r eglwys, mae Tomen Llawddog, sef mwnt o'r 12 Ganrif and nid oes Ilawer o olion i'w gweld.
Aethom heibio fferm Nantllin - er bod ty cyfoes wedi ei godi gerllaw mae'r hen ffermdy a'r adeiladau gwreiddiol yn ddiddorol ac yn adferadwy rwy'n tybio. Buom yn dyfalu am yr enw - a oedd Ilin yn cael ei dyfu yma? Hefyd bu trafodaeth am fferm Bach yGwyddel-mae'rgair gwyddil yn gyfarwydd mewn sawl ardal ac yn gysylltiedig a choed neu Iwyni. Gwelir y gair yng ngeiriadur Thomas Jones a gyhoeddwyd yn 1688, sef swyddeli, twmpathau -"bushes".
Gwelsom un neu ddwy o ffermydd oedd yn dilyn math cynaladwy o ffermio ac o fyw, yn gwneud trydan eu hunan, yn tyfu pob math o lysiau, yn compostio ac yn ail-ddefnyddio pob math o bethau.
Gwahoddwyd ni i gael ein cinio yng ngardd un o'r Ilefydd hyn, sef Pencraig, Ile'r oedd gardd
fach hyfryd, gyda Ilwybrau a cherfiadau pren yn arwain ati, a'r lie yn ganolfan wyliau i blant ac anabledd mae'n debyg.
Disgyn lawr i Gwmpengraig wedyn. Yma'roedd ffatri wl芒n Dolwerdd - bu hon, ac efallai ei bod o hyd - yng ngofal Arthur, brawd Dafydd Iwan, a gerllaw iddi mae rhes fach o dai ar gyfer gweithwyr y ffatri. Yng Nghwmpen-graig hefyd mae cape) Soar, capel pert gyda briciau melyn o amgylch y ffenestri, ac yn tyfu o'i flaen chewch ywen wedi eu torri'n slap "cornet" bron!'Roedd o ddiddordeb arbennig i mi gan i fy rhieni fyw i fyny'r rhiw am gyfnod byr, a mynychu'r capel.
Aethom allan o'r pentre gan droi heibio Melin yr Esgair, dringo i fyny'r cwm, trwy'r coed a gwneud cylch yn 么l i Benboyr. Bu'n daith ddiddorol, gyda'r ardal, sydd and milltir neu ddwy o Drefach Felindre, yn frith o ffatrioedd gwlan ar un adeg. Rhwng 1870 a 1930 roedd 43 o ffatrioedd yn cynhyrchu gwlanen yn bennaf, i gyd yn rhedeg ar olwynion dvvr. Addas felly mai yn Drefach Felindre y sefydlwyd Yr Amgueddfa Wlan, yng nghanol y gweithgarwch gynt.
Arweinwyd y daith hon gan Clem Lewis, a chawsom ganddo ddiwrnod difyr."