Roedd y cystadlu ar y dydd Llun yn eithriadol, gyda chymaint a 23 o gystadleuwyr ar yr Unawd allan o Sioe Gerdd, 21 ar yr Unawd Gymraeg ac 20 ar yr Het Unawd. Cystadleuaeth boblogaidd y prynhawn dydd Llun oedd yr Unawd Emyn i rai dros 60 oed, gyda 15 o gystadleuwyr ar y llwyfan. Roedd yn hyfryd cael cwmni disgyblion ac athrawon yr ysgolion cynradd ar y nos Wener, gyda chynrychiolaeth dda o ysgolion y cylch yn cystadlu. Llywydd Anrhydeddus yr Wyl eleni oedd Mrs Mair Hopkins, D么l Arthur, Pontrhydygroes, un o ffyddloniaid yr eisteddfodau'n y Bont ers y cychwyn, ac fe gafwyd ganddi anerchiad pwrpasol iawn ar y nos Sadwrn. Enillydd y goron oedd y Prifardd John Griffith Jones o Abergele, a chipiwyd y gadair gan Arwel Emlyn Jones o Ruthin, gyda thim Y Llew Gwyn Talybont yn ennill tarian Talwrn y Beirdd.
|