大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Barcud
Abaty Ystrad Fflur Arddangosfa Strata
Medi 2006
Cynhaliwyd ail arddangosfa Gerfluniau 'Strata', prosiect ar y cyd rhwng Gr诺p Datblygu Cymuned Ystrad Fflur a gr诺p cyffelyb o Kells, Iwerddon, o fewn ac oddi amgylch Abaty Ystrad Fflur dros y pythefnos 9-22 o Orffennaf, ac fe brofodd i fod yn llwyddiant mawr.
Agorwyd yr arddangosfa ar ddydd Sul 9fed o Orffennaf, a dechreuodd y diwrnod gyda gwasanaeth eciwmenaidd yn eglwys Ystrad Fflur, o dan ofal y Ficer, Y Parch Philip Wyn Davies. Y syniad gwreiddiol oedd i gynnal gwasanaeth awyr agored ymhlith yr adfeilion, ond oherwydd y cawodydd ar y bore, cynhaliwyd y gwasanaeth yn yr eglwys, a oedd yn gyffyrddus iawn. Cymerodd aelodau o Gr诺p Datblygu Cymuned Ystrad Fflur a'r gr诺p o Kells, ran yn y gwasanaeth. Ar 么l y gwasanaeth, croesawyd pawb am baned a lluniaeth ysgafn yn y babell.

Am hanner dydd, cynhaliwyd yr agoriad swyddogol, gan Dr Richard Cork, prif gritic Celf papur The Times, a dywedodd ei fod wrth ei fodd yn agor arddangosfa o'r radd flaenaf, a llongyfarchodd bawb a oedd ynghlwm 芒'r prosiect. Cyflwynwyd ef gan y curadur dros Gymru, Ann Price Owen, darlithydd yn Athrofa Abertawe.

Arweiniwyd y gweithgareddau gan Charles Arch, ac fe gafwyd gair hefyd gan Dr David Austin o Brifysgol Llambed, yngl欧n 芒'r gwaith archeolegol sydd yn mynd ymlaen gan y coleg ar hyn o bryd yn Ystrad Fflur. I gloi'r seremoni, cafwyd datganiad effeithiol iawn gan G么r Meibion Caron o dan arweinyddiaeth Mrs Catherine Hughes, yn canu corws Lladin. Dilynwyd hynny gan barti Caws a Gwin yn y babell. Roedd y tywydd wedi gwella erbyn hynny, ac fe gafodd pawb gyfle i weld yr arddangosfa. Yn hwyrach yn y prynhawn, cafwyd cyngerdd yn yr eglwys gan y c么r, gyda Mrs Alice Jones yn cyfeilio.

Dros y penwythnos cynta o'r arddangosfa, cynhaliwyd gweithdy diddorol iawn gan griw o artistiaid 'Umha Aois' (Yr oes Efydd) yn perfformio arddangosiad pwerus o gastio efydd yn yr awyr-agored, ac fe gafodd ysgolion lleol gyfle ar y dydd Llun i gymryd rhan.

Roedd yr arddangosfa gan 24 o arlunwyr lleol yn Festri Rhydfendigaid yn cyd-redeg 芒'r arddangosfa gerfluniau, ac fe gafwyd nifer fawr o ymwelwyr yno yn ystod y pythefnos.

Teithiodd yr arddangosfa gerfluniau ddechrau Awst i Briordy Kells, Iwerddon, a chafodd aelodau o'r gr诺p lleol a ffrindiau gyfle i ymweld 芒'u ffrindiau Gwyddelig unwaith yn rhagor.

Mae'r gr诺p yn ddiolchgar iawn i'r noddwyr, sef y Gronfa Ddatblygu Ranbarthol Ewropeaidd, Cynghorau Celfyddydau Iwerddon a Chymru, Cyngor Sir Kilkenny, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Phrifysgol Cymru Abertawe, hefyd i Cadw a Duchas am ganiat芒d i gynnal yr arddangosfa yn Ystrad Fflur a Phriordy Kells.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy