大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Barcud
Teulu Bwlchyblaen - Kate, Morgan, William Hefin, David Tom a Doris, gyda'u rhieni William John a Hannah Rees Plant Bwlchyblaen
Hydref 2005
Atgofion am un o'r teuluoedd sy'n hen gyfarwydd ag ardal Pontrhydygroes.

Ar ddechrau'r ganrif olaf roedd bron pob cartref yng Ngheredigion yn hunan gynhaliol ac anaml y byddai'n rhaid i'r teulu fentro y tu allan i'r ardal i chwilio am angenrheidiau bywyd. Ardal felly oedd Pontrhydygroes; roedd hi'n uned economaidd yn ogystal ag uned gymdeithasol ac roedd bywyd trigolion yr ardal yn troi o amgylch cysylltiadau teulu, tylwyth a chymydog.

Ar lethr uwchlaw pentref Pontrhydygroes, yn cysgodi rhwng Llwyndrain, Brynhyfryd, Logelas a Fforddlas y saif tyddyn Bwlchyblaen yng nghesail y bryniau a dyrnaid tai. Y cyfnod hynny, roedd y tyddyn yn gartref i Hannah a'i g诺r William John Rees. Mab ydoedd i un o ferched Bwlchyblaen, sef Winifred a ymgartrefodd yn Gwarallt Cwmystwyth wedi iddi briodi 芒 Tomos Rees.

Ond bu Winifred farw ar enedigaeth William John yn 1899, a magwyd ef wedyn ym Mwlchyblaen gyda'i fodryb Hannah Davies. Roedd ganddo chwaer oedd yn h欧n hefyd, ond bu hithau farw pan oedd ond yn blentyn.

Priodwyd William a Hannah Evans yng nghapel Bwlchgwynt Tregaron. Ni aeth William ymhell i chwilio am wraig, un o'r un gymdogaeth ag ef oedd hi, yn byw ym Mhantrhedyn, yn ferch i Catherine Evans a oedd yn enedigol o Pantyrhirion, Llanafan, a Dafydd Evans, yntau yn dod o'r un ardal, sef Talgarth, Llanafan. Roedd Hannah yn un o ddeg o blant.

Cafodd William John Rees ei adnabod fel g诺r tawel a myfyrgar ac yn dynnwr coes. Gwraig groesawgar ar yr aelwyd a gweithgar iawn oedd Hannah Rees ac i'r ddau ganwyd chwech o blant ar y tyddyn naw acer. Trigent yn weddol hunangynhaliol, cadwent fuwch, a magent lo, roedd ganddynt ychydig o ddefaid, mochyn a dyrnaid o ieir, tyfent wair a chadwent ardd lawn. Gweithiodd y ddau yn ddiflino i ofalu am y teulu a mawr oedd y parch iddynt yn y fro. Cyn colli ei iechyd, bu William John yn weithiwr caled, bu yn y gwaith coch, y gwaith mwyn, gweithiodd yn felin lifio yr Hafod, yn Chwarel Ystrad Meurig, ac yng ngwaith Nant y Moch.

Ond beth am blant Bwlchyblaen?

Ganwyd chwech ar aelwyd Bwlchyblaen, tair merch a thri bachgen. Dafydd Thomas oedd yr hynaf o'r plant a threuliodd ef lawer o'i amser gyda'i wncwl a'i fodryb yn Brynhyfryd. Yr ailanedig oedd William Hefin a Morgan John yr ieuengaf o'r bechgyn. Fel eu tad, a fu'n ymladd yn y rhyfel byd cyntaf, bu'r tri mab hwythau yn ymladd dros eu gwlad yn yr ail ryfel byd a mawr oedd gofid y teulu pan anafwyd Dafydd Thomas ac yntau mor bell o Fwlchyblaen. Ond mawr oedd y llawenydd pan ddaeth y tri mab yn 么l o'r gad i ddiogelwch a thawelwch Bwlchyblaen.

Winifred Menna oedd yr hynaf o'r merched, yna Catherine Christina a Doris Emma yr ieuengaf. Er i bob plentyn adael yr aelwyd bob un yn ei dro i briodi, roedd y cwlwm teuluol yn un cryf a safodd tri o'r plant ym Mhontrhydygroes wedi iddynt briodi.

Ganwyd i Hannah a William Rees saith 诺yr a chwech wyres, ac ymfalchient yn y teulu estyngedig. Ond ar Fawrth 11eg 1967, bu farw Hannah megis cannwyll yn diffodd, ac er mawr dristwch i'r teulu a'r fro, bu farw William John ei g诺r, yntau ar Hydref 18fed yr un flwyddyn, a chaewyd pennod yn hanes Bwlchyblaen.

Erbyn heddiw, dim ond dau o blant Bwlchyblaen sy'n fyw, sef Morgan John (Moc Bwlchyblaen) sy'n dal i fod yn y fro, a Winifred Menna a driga gyda'i g诺r yn ardal Cnwch Coch.

Yr unig ddisgynyddion eraill o deulu Bwlchyblaen sy'n dal i fyw ym Mhontrhydygroes yw Brian Thomas a'i deulu, mab i Catherine Christina (Katie Bwlchyblaen). Ond fe fyddai William a Hannah Bwlchyblaen yn falch o wybod bod yna lawer o wyrion yn dal i fyw nid nepell o'r fro.

Yn ystod y blynyddoedd, bu llawer newid ar wedd ac aelwyd Bwlchyblaen. Erbyn hyn mae'n gartref cysurus i deulu o Loegr, ac mae yna blant eto ym Mwlchyblaen. Ond pan gyfeiria hen ardalwyr Pontrhydygroes at 'blant Bwlchyblaen', cyfeirio maent at blant William John a Hannah Rees.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy