大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Barcud
Theatr Felinfach Dwy Theatr Dau Berfformiad
Mai 2007
Mae un theatr mewn dyffryn gwledig ac yn gwasanaethu trigolion cefn gwlad. Mae'r llall mewn dinas, prif ddinas i fod yn fanwl gywir ac yn gwasanaethu trigolion dinas a gwlad.

Bum yn y ddwy o fewn tri diwrnod i'w gilydd yn gweld dau berfformiad rhyfeddol a chofiadwy. Roedd y ddwy theatr yn llawn i'r ymylon 200 mewn un a 70 o filoedd yn y llall, a'r awyrgylch yn drydanol wrth i'r perfformiadau ddatblygu. Cast o dros gant o bobl mewn un a phymtheg yn y llall. Perfformwyr y ddau gynhyrchiad yn rhoi o'u gorau a'r ddwy gynulleidfa yn ymateb yn reddfol. Dau brofiad gwahanol ond cofiadwy.

Efallai fod rhai ohonoch wedi dyfalu erbyn hyn lle bues i. Theatr Felin-fach oedd un wrth gwrs lle gwelais berfformiad unigryw o'r Pasiant 'Jwdas' o waith Nan Lewis yn cael ei gynhyrchu gan Eryl Jones. Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd oedd y llall, lle gwelais y t卯m rygbi cenedlaethol yn trechu'r hen elyn. Gallwn ddweud fod hwn hefyd yn berfformiad unigryw gan taw dyma'r unig g锚m i'r t卯m i ennill ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.

Roedd sawl elfen yn debyg yn y ddau achlysur; tensiwn, tyndra a'r annisgwyl, elfennau sy'n cyffroi cynulleidfa.

Seliwyd y pasiant 'Jwdas' ar weithredoedd Jwdas yn ei ymwneud a'r Iesu a arweiniodd yn y pen draw at ei fradychu. Byrdwn y perfformiad oedd taw cyflawni proffwydoliaeth wnaeth Jwdas gan fod yn rhaid i'r Iesu farw a'i fod wedi ei ddewis gan Dduw i wneud y gorchwyl hynny. Yn wir teimlais dosturi dros Jwdas a pheth cydymdeimlad yn ei weithred o fradychu'r Iesu. Gwelwyd golygfeydd dramatig rhwng Jwdas a Salome yn ogystal 芒 rhwng Peilat a'r dyrfa.

Cwmni Br枚ydd Tywi gyflwynodd y Pasiant a'r prif actorion oedd Mansel Thomas - Jwdas, Undeg Evans - Salome a Wyn Morris - Iesu. Er taw actorion amatur ydynt cafwyd perfformiad proffesiynol dros ben. Hyfryd oedd gweld plant yn rhan o'r cast ac fe saif yr olygfa 'Y Plant yn Chwarae' yn hir yn y cof.

Cafwyd cyfraniadau gan unawdwyr a phart茂on wedi eu plethu'n gelfydd i'r stori yn cael eu cynorthwyo gan gerddorfa fechan. Noson i'w thrysori a da oedd gweld y theatr yn llawn ac yn mwynhau, tystiolaeth arall o'r math o berfformiadau sy'n denu tyrfa i'r theatr Gymraeg.

Perfformiad llawn angerdd ac ymroddiad gafwyd yn y theatr fawr yng Nghaerdydd hefyd. Er taw pymtheg oedd y cast gydag eilyddion wrth law rhoesant berfformiad clodwiw ac yma eto cafodd y dyrfa ei phlesio'n fawr.

Yn wahanol i gwmni Br枚ydd Tywi nid amaturiaid oedd y rhain ond chwaraewyr proffesiynol ac am unwaith cafwyd perfformiad felly. Profiad gwefreiddiol oedd bod yn rhan o'r dyrfa hon hefyd ac fe ddaeth prif actor i'r amlwg ym mherson ifanc James Hook. Manteisiodd ar lwyfan cenedlaethol i amlygu ei ddawn. Ond rhaid peidio anghofio cyfraniad y t卯m i lwyddiant y perfformiad. Yn yr un modd ag actorion amlwg y pasiant, oni bai am gyfraniad t卯m ni fyddai wedi bod yn bosibl cyflwyno perfformiad mor effeithiol.

Ie dwy theatr a dau berfformiad gwahanol o ran natur, ond un profiad. Y profiad o falchder o fod yn ddinesydd gwlad fechan. Gwlad sy'n medru hyrwyddo cyfleoedd i gwmn茂au amatur i feithrin ei dawn a'i diddordeb ac mewn maes gwbl wahanol cynhyrchu a hyfforddi chwaraewyr sy'n medru cystadlu ar lwyfan byd eang.

Vaughan Evans

  • Adolygiad o 'Jwdas' yn Theatr Felinfach.
  • Digwyddiadau Theatr Felinfach
  • Chwaraeon ar 大象传媒 Cymru'r Byd

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy