Ers gorffen gyda Ffair Garon ym mis Mai, a'r holl fwrlwm oedd yn gysylltiedig gyda hwnnw, roeddwn yn meddwl fod y mis hwn yn mynd i fod ychydig yn dawelach, ond fe'm siomwyd o'r ochr orau.
Mae Blas y Bryniau wedi dechrau, gyda nifer o weithgareddau yn digwydd o gylch Tregaron, boed yn deithiau cerdded, teithiau beic, cystadleuthau p锚l-droed a rygbi, a'r Tregathlon ym mis Hydref. Eisoes mae'r pwyllgor Tregathlon wedi ymgynnull i drafod hynt a helynt y ras eleni, a diolchaf o flaen llaw i'r rheiny sy'n rhoi o'u gwirfodd i gynorthwyo'r achos.
Diolchaf hefyd i'r rheiny sydd wedi bod yn paratoi teithiau cerdded neu hanesyddol ar gyfer Blas y Bryniau. Cyfle yw'r Wyl i bobl ddod i adnabod yr ardal hon, boed ym myd natur neu hanes, yn well. Nid cyfle'n unig i ymwelwyr yw hi i flasu ychydig o'r ardal, ond hefyd i'r rheiny ohonom sy'n drigolion yma. Tan yn ddiweddar, doeddwn i ddim yn ymwybodol fod yno olion hen gastell ar dir Sunnyhill, ond wedi taith gerdded o gwmpas Blaencaron, fe gerddodd grwp ohonom i ben y castell yn ddiweddar. Dy'n ni ddim yn rhy hen i ddysgu!
Os oes chwant gan rai ohonoch i ddod ar y teithiau hyn, yna cysylltwch 芒'r swyddfa ar y rhif ar y gwaelod. Fe geisiwn ni roi mwy o wybodaeth i chi. Yn ddiweddar, bu Dafydd Wyn Morgan wrthi'n ceisio sefydlu Clwb Cerdded yn Nhregaron, a dangoswyd diddordeb digon brwd yn y cynllun. Cysylltwch 芒 ni yn y swyddfa am fwy o wybodaeth.
Efallai i nifer o ddarllenwyr weld y teledu yn ddiweddar, pan ddaeth Cwm Brefi i sylw y wasg o gwmpas y byd - rwy'n meddwl i Julie Hutchings, Cwm Dulas, ac Eleri Davies, Aberdeuddwr, siarad gyda phob gorsaf radio a theledu ym Mhrydain, ac hefyd gydag ambell i orsaf yn Awstralia, Canada a'r Unol Daleithiau. Yn ogystal 芒 hynny, llwyddodd y sylw a wnaed o Gwm Brefi i ddenu pobl yn yr un sefyllfa i gysylltu 芒'r swyddfa.
Yn ystod yr wythnos a aeth heibio, rwyf wedi sgwrsio gyda phobl o Gernyw ac o swydd Rutland, sydd yn ceisio sicrhau cyflenwadau trydan a dwr i'w cymunedau hwy, ac mae Curiad Caron wedi bod yn falch iawn o'u cynorthwyo. Cyn gorffen s么n am Gwm Brefi, hoffwn ddiolch i'r rhai a weithiodd yn ddiflino dros gael trydan i'r ardal - pobl y gymuned yng Nghwm Brefi, y Cyngor Cymuned, Cyfarwyddwyr Curiad Caron ac yn enwedig Mr. Donald Patterson.
Bu Mrs Gill Byrne yn ymweld 芒'r swyddfa'n ddiweddar. Mae Mrs. Byrne yn cynrychioli Clybiau Plant Cymru, a soniodd am yr angen am feithrinfa yma yn ardal Tregaron. Efallai fy mod yn anghywir, ond rwy'n meddwl mai Tregaron yw'r unig dref yng Ngheredigion heb wasanaeth o'r fath, yn cynnig lle i rieni adael eu plant tra'u bod yn gweithio. Byddaf yn llunio holiadur yn y dyfodol agos er mwyn ceisio adnabod yr angen yn yr ardal, a pha ffordd fyddai orau i foddio'r angen hwnnw.
Os hoffoech wybod mwy am yr hyn sy'n digwydd gyda ni a Curiad Calon, mae ein gwefan wedi agor yn awr, ac er bod angen diweddaru ychydig ar gynnwys y wefan, mae'r wybodaeth arni yn ddiddorol iawn, os ca'i ddweud fy hunan! Cyfeiriad y wefan yw , a gallwch gysylltu 芒 ni yma ar ein cyfeiriad ebost, sef info@tregarononline.org. Cofiwch y gallwch gysylltu 芒 ni ar y ff么n ar 01974 298146.