Gwelais yn y Barcud fod Clwb P锚l-droed Dewi Stars wedi dathlu'r Ilynedd 50 mlynedd o'i bodolaeth and nid oedd hynny'n ffeithiol gywir.
Daeth Dewi Stars fel clwb plant Llanddewi Brefi i fodolaeth 7 mlynedd cyn hynny, a'r dydd o'r blaen (29 Ebrill 2010) deuthum ar draws llyfr bach coch ei glawr Ile cedwid cofnodion cynharaf y Clwb.
Daeth Clwb leuenctid Dewi Stars i fodolaeth ar gyfer tymor 1952-3.
Myfi oedd Ysgrifennydd y CIwb.
Y Capten oedd Arwyn Roberts a'r Is-gapten oedd Wyn Thomas sydd yn byw erbyn hyn yng nghyffiniau Manceinion.
Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf ar 29 Hydref 1952 o dan gadeiryddiaeth Arwyn. Penderfynwyd, a hynny yn Saesneg, ar y rheolau.
Y mae'r cofnodion, a ysgrifennwyd gennyf yn yr iaith fain, oherwydd caem fwy o Saesneg na Chymraeg ar lwybr addysg.
Pwyswyd, roedd hi'n rheol, fod yn rhaid gwisgo dillad pel-droed gan gynnwys sgidiau, a'n bod am i'r Clwb gael ei alw ar y cae ac yn y wasg fel Dewi Stars!
Etholwyd Glyn Davies yn Drysorydd a phenderfynwyd argraffu cerdyn i nodi'r gemau y byddem yn eu chwarae.
Diddorol sylwi ein bod am drefnu adran ar gyfer cyfnewid Ilyfrau yn ymwneud a ph锚l-droed, ac yn talu ceiniog am fenthyg Ilyfr oedd yn gwerthu am ddau swllt a chwech.
Telid 3 ceiniog i berthyn i'r Clwb a throsglwyddwyd y swm o dri swllt a phedair ceiniog a berthynai i'r Clwb Stampiau oedd yn bodoli yn y pentref o dan yr enw Arkubs.
Os penderfyna unrhyw un o'r chwaraewyr chwarae i dim arall ag yntau yn aelod o dim Ser Dewi disgwylid iddo dalu swllt.
Ni chaniateid rhegfeydd o gwbl ar y cae.
Dyma reol 7:'No bad language to be used at any meeting or on the field of play by any member of this Club.
Disgwylid i bob aelod o'r tim wisgo crys coch, trowsus gwyn, a sanau coch a gwyn.
Disgynnai'r gwaith o drefnu gemau ar ysgwyddau'r Ysgrifennydd, yr eiddoch yn gywir.
Ef oedd a'r hawl, a disgwylid iddo ddarllen y cofnodion ymhob cyfarfyddiad o'r Pwyllgor Gwaith.
Nid oedd hawl gan y Clwb i deithio o Landdewi heb fod ganddynt 11 o fechgyn oedd yn awyddus i gynrychioli pentref Dewi Sant ar dir Ceredigion.
Etholid y tim gan ddau a gafodd y dasg sef Glyn Davies a Gwyn Francis Evans (Llundain erbyn hyn) gyda'r Capten ac ym mhresenoldeb yr Ysgrifennydd.
Penderfynwyd hefyd cael bathodyn gyda llythrennau'r Clwb arno, a rhoddwyd y bel gyntaf inni ymarfer gan leuan Evans, Delfryn.
Yr oedd digon o frwdfrydedd yn bodoli fel ein bod wedi Ilwyddo i ymarfer gyda 6 ymhob tim.
Dewisid o'r rhain y tim cyntaf i chwarae Llangeitho, sef D Ben Rees, Arwyn Roberts, D James Price, Pistyllygweudd, Calvin Davies, Derek Davies, Glyn Davies, Norman Winstanley, Gwyn F Evans, Gordon Winstanley, Wyn Thomas a Peter Williams.
Erbyn ein Pwyllgor ar 17 Tachwedd 1952 gwelir enw Byron Davies, un sydd wedi oes o wasanaeth i bel-droed yn Llanddewi Brefi.
Haedda ein canmoliaeth.
Pan chwaraewyd tim Ystrad Meurig ym mis Tachwedd, dyma'r tim a ddewiswyd:
G么I - D Ben Rees, Calvin Davies, Gareth Lloyd. leuan Evans, Arwyn Roberts, D J Price.
Glyn Davies, Wyn Thomas, G F Evans, Gordon Winstanley, Peter Williams.
Ar y fainc yn barod i helpu, yr oedd Norman Winstanley ac Emrys Richards, Tan-y-Bryn (Tregaron erbyn hyn).
Erbyn 11 Rhagfyr 1952 yr oeddem wrth ein bodd gyda bathodyn Dewi Stars a fu ar ein labelau am gyfnod hir yn y pumdegau.
Ni cheir rhagor o fanylion yn y llyfr cofnodion am y CIwb a fu'n rhag rhedegydd i Glwb Dewi Stars a ffurfiwyd ym 1959.
Byddwn i yn dweud mai'r rhai mwyaf dibynnol ac oedd yn hynod o frwdfrydig am Glwb leuenctid Dewi Sant oedd y rhain:
i) Peter Williams sydd ers blynyddoedd yn byw yng nghyffiniau Chesterfield. Nis gwelais ers blynyddoedd lawer. Roeddem yn byw yn ymyl ein gilydd yn 'top' y pentref.
ii) Arwyn Roberts, sydd yn dal yn blwyfolyn, a'i gyfraniad i'r fro a chae pel-droed yn haeddu clod a diolch diffuant.
iii) leuan Evans, Delfryn. Cofiaf yn dda amdano yn ei ddillad plisman adeg un o Eisteddfodau Cenedlaethol ardal Abertawe.
iv) Glyn Davies, a symudodd i ardal Castell Nedd os cofiaf, ac un o'r goreuon. Roeddem yn ffrindiau mawr.
v/vi) Norman a Gordon Winstanley. Collais adnabyddiaeth o'u hanes ers blynyddoedd. Dau o chwaraewyr gwych y Clwb, a'u tad Jack Winstanley yn ein hyfforddi a'n cefnogi bob tro.
vii) Derek Davies, 4 Ivy Bush. Alltud fel finnau yw Dr Derek, galluog a gostyngedig. Cyw melyn olafyteulu ac un sydd wedi rhoddi Llanddewi ar y map academaidd.
viii) David James Price, Pistyllgweudd, un a fu'n garedig iawn i mi. Bu ei farw cynamserol yn siom enfawr i'w cyfoeswyr. Meddai ar ddidwylledd ac unplygrwydd. Unig blentyn a fagwyd yn annwyl.
ix/x) Byron a Calvin Davies. Balch o weld Calvin yn 么1 ym mywyd y pentref, of a Byron heb golli'r naturioldeb a'r anwyldeb oedd ganddynt 58 mlynedd yn 么1.
xi) Minnau yn hiraethu am y dyddiau gwych pan oeddem gyda'n gilydd, yn Ddol-gam a Do1-felin a'r Cae Mawr.
O na baem yn medru ail ddechrau eto gyda thim ieuenctid Dewi Stars, ond o leiaf, gosodais ar gof a chadw yn y Barcud ychydig o ramant bechgyn Llanddewi yn nechrau'r pumdegau. Mae'n bwysig cadw cofnodion, dyna wers yr ysgrif hon.